9. 7. Dadl UKIP Cymru: Practisau Cyffredinol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:50, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Nid oes unrhyw ymyrraeth am fod yr Aelod, a bod yn hollol onest, yn bod yn chwerthinllyd.

Yng ngwelliant 5, rydym yn fwy penodol ynglŷn â sut y mae angen i ofal sylfaenol wella. Mae’n galw am gyfuniad o ofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd lawer mwy, gyda buddsoddiadau’n cael eu gwneud yn y lle mwyaf priodol yn hytrach na gosod canrannau mympwyol, a gweithio ochr yn ochr â pholisïau ehangach y Llywodraeth sy’n hybu iechyd da—er enghraifft, trethu sigaréts yn drwm.

Yng ngwelliant 6, rydym yn nodi bod gwir angen i ni weld, ochr yn ochr â’r buddsoddiadau hyn—ac mae hyn yn rhywbeth y gwn fy mod wedi’i drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar nifer o achlysuron, gan gynnwys yn y Siambr hon—cymaint ag sy’n bosibl, ac ystod mor eang ag y bo modd o ddata perfformiad ar ofal sylfaenol yn cael ei gyhoeddi’n rheolaidd. Er mwyn mapio’r ffordd ymlaen ar gyfer gofal sylfaenol, mae angen i ni gael yr offer at ein defnydd, ac mae hynny’n sicr yn cynnwys cael y data cywir a’r data gorau at ein defnydd. Cefnogwch ein gwelliannau heddiw.