Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 25 Ionawr 2017.
Rwyf bob amser yn cael fy niddanu gan ddadleuon UKIP, am eu bod yn darlunio gwlad o oes a fu. Rwy’n edrych ar y cynnig y maent wedi’i gyflwyno heddiw a chlywn sôn yn unig am feddygon teulu—rydym yn gwneud eilun o’r meddyg teulu. Mae’n thema gyson fod UKIP yn paentio llun o’r 1950au, ac nid yw’r cynnig heddiw yn wahanol i hynny. Roedd yn fy atgoffa o rai o’u polisïau diweddaraf—y polisïau mwyaf od y maent wedi’u llunio, sy’n cydweddu’n llwyr â’r darlun gwladaidd hwn y maent yn ei baentio o’r Brydain wledig—