9. 7. Dadl UKIP Cymru: Practisau Cyffredinol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 6:03, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am gyflwyno’r cynnig hwn yma heddiw, ac fe wnaethoch hynny mewn modd huawdl a chytbwys iawn. Rwy’n croesawu’r ddadl hon, sy’n amlygu pwysigrwydd llwyr y rôl a chwaraeir gan ein meddygon teulu, ac nid wyf yn eu gwneud yn eilunod—fel yr awgrymodd yr Aelod fod fy nghyd-Aelodau yn UKIP yn ei wneud—ond maent yn gam cyntaf sylfaenol i unrhyw glaf sy’n ceisio cael diagnosis. Gofal sylfaenol yn wir yw’r pwynt cyswllt cyntaf â’r GIG i fwy na 90 y cant o’n cleifion, ac eto mae meddygfeydd yn fy etholaeth a ledled Cymru yn wynebu pwysau difrifol, gyda chleifion yn cysylltu â mi ynglŷn â mynediad yn ddyddiol. Terfynodd Meddygfa Llys Meddyg yng Nghonwy ei chontract â’r GIG y llynedd o ganlyniad i lwyth gwaith na ellid ei reoli, gyda’r ddau feddyg teulu yn gweithio 12 awr y dydd. Mae meddygfeydd Bae Penrhyn a Deganwy wedi gweld eu darpariaeth o feddygon teulu yn disgyn o bump i ddau. Sut rydych chi’n rheoli’r niferoedd hynny o gleifion—miloedd ohonynt?

Mae meddygon teulu yn dweud wrthyf yn awr fod y system ar ymyl y dibyn. Rydym wedi gweld blynyddoedd o danfuddsoddi cronig—do, Aelodau—ac mae 17 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, wedi’i chynnal gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi bod yn gyfrifol am gyllido ein gwasanaethau meddyg teulu ledled Cymru. Rydym wedi gweld y cyllid yn gostwng o £20 miliwn dros bedair blynedd a’r sector yn wynebu prinder staff difrifol a meddygfeydd yn cau, gan arwain at Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn rhybuddio bod meddygon teulu yng Nghymru yn wynebu storm berffaith o gynnydd yn y galw, llwyth gwaith cynyddol a gweithlu sy’n crebachu. Tynnodd Cymdeithas Feddygol Prydain sylw at ei chanfyddiadau yn yr hydref fod mwy na chwarter y meddygon teulu yng Nghymru yn awr yn ystyried gadael y proffesiwn. Mae 60 y cant yn teimlo nad oes ganddynt gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, ac mae 80 y cant yn poeni am gynaliadwyedd eu darpariaeth eu hunain. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain hefyd wedi’i ddisgrifio fel argyfwng yn y ddarpariaeth ymarfer cyffredinol.

Yn amlwg, mae’r system o dan bwysau aruthrol. Yn 2005-06, roedd gofal ymarfer cyffredinol yn derbyn dros 10 y cant o wariant y GIG; nawr, mae i lawr i lai nag 8 y cant. Lle y caiff buddsoddiad ei wneud, nid yw’n cael yr effaith a ddymunir. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi dweud am y £42.6 miliwn a fuddsoddwyd yn ddiweddar mewn gofal sylfaenol, fod unrhyw arian sy’n dod drwy’r system clwstwr i’w weld yn araf iawn yn gwneud unrhyw wahaniaeth mewn gwirionedd i’r rhan fwyaf o bractisau. Mae’r ffordd y mae’r clystyrau’n gweithio yn amrywio’n fawr ledled Cymru, felly mae hynny’n rhoi mwy o anghydraddoldebau i mewn yn y system.

Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi’n monitro hyn? Yn y Pedwerydd Cynulliad, galwodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr oeddwn yn aelod ohono ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng recriwtio a chadw meddygon teulu. Mae gan yr Alban nifer gryn dipyn yn uwch o feddygon teulu y pen na Chymru, gyda 8.1 i bob 10,000, o’i gymharu â 6.5 yng Nghymru. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gostyngiad o naw wedi bod yn nifer yr ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru ers mis Medi 2014, i 1,997. Ar ben hynny, mae’r gyfran a’r nifer o feddygon teulu 55 oed a throsodd bellach yn 23 y cant o’r gweithlu. Felly, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau bod y gweithlu’n cael ei ddiogelu at y dyfodol cyn ymddeoliad haeddiannol llawer o’n meddygon teulu gweithgar.

Yn olaf, mae ein gwelliant, fel y crybwyllodd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, yn ceisio cydnabod pwysigrwydd y rhan y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, megis fferyllwyr, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a pharafeddygon yn ei chwarae yn sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael ei ddarparu’n effeithiol. Mae integreiddio a chydweithio effeithiol rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol er mwyn lleddfu pwysau ar feddygon teulu. I gloi, mae’r pwysau aruthrol ar y sector yn golygu ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn adnoddau, pobl a seilwaith. Dyma fy nghwestiynau, i orffen: a wnewch chi ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau gweithredu eich cynllun ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol heddiw ac effaith cyflwyno’r arweinydd clinigol ar gyfer gofal sylfaenol? Sut dderbyniad a gafodd y cynnig cyflogaeth ar ei newydd wedd a chymhellion i feddygon teulu sy’n dod i weithio yng Nghymru? Rydym eisiau gwybod. Ac yn olaf, sut rydych yn gweithio gydag ysgolion meddygol yng Nghymru i gynyddu profiad o ymarfer cyffredinol yn ystod hyfforddiant meddygol? Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r argyfwng yn y ddarpariaeth ymarfer cyffredinol yn real; nid yw gwadu’n opsiwn.