Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n croesawu’r ddadl heddiw, sy’n amlygu pwysigrwydd gwasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel, a’r cyfle i ymateb i rai o’r sylwadau a wnaed, ond fe ddechreuaf drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ar draws Cymru, ac mae hyn mewn cyferbyniad uniongyrchol â Lloegr. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’n meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol i wella gofal i bobl ledled Cymru.
Rydym yn gwybod bod y galw am wasanaethau gofal sylfaenol meddygon teulu a gwasanaethau ehangach yn parhau i gynyddu, gydag oddeutu 19 miliwn o gysylltiadau â chleifion y flwyddyn. Dyma yw mwyafrif llethol y cysylltiadau rhwng cleifion a’r GIG ac mae’n gweithredu fel porth i ystod o wasanaethau eraill. Ac rwy’n cydnabod bod y gaeaf yn gosod pwysau arbennig ar bob rhan o’n system iechyd a gofal. Ni fyddai ein system gyfan wedi ymdopi heb ymrwymiad anhygoel y staff iechyd a gofal. Ac rwyf am nodi bod ymrwymiad o’r fath gan feddygon teulu heb gael ei wobrwyo’n hael o gwbl ar draws y ffin yn Lloegr, gydag ymgais gwbl gywilyddus gan y Prif Weinidog i feio meddygon teulu am bwysau’r gaeaf mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, rwyf am ddatgan yn gwbl eglur: nid dyna fy agwedd yma yng Nghymru, ac nid dyna fydd fy agwedd. Yn fwy na pheidio â beio meddygon teulu, gwneuthum y penderfyniad i weithredu mewn partneriaeth â Chymdeithas Feddygol Prydain pan euthum ati i lacio’r fframwaith ansawdd a chanlyniadau hyd at ddiwedd mis Mawrth, a dylai hynny leihau’r pwysau ar feddygon teulu a darparu mwy o amser ar gyfer cleifion. Mae’n enghraifft glir o’r modd y mae’r Llywodraeth yn gwrando ac yn gweithredu, a dyna’r adborth uniongyrchol a gefais gan feddygon teulu eu hunain.
Nawr, mae meddygon teulu eu hunain hefyd yn cydnabod yn gynyddol eu bod angen ac eisiau bod yn rhan o’r tîm gofal sylfaenol ehangach hwnnw. Bydd hynny’n golygu bod rôl meddygon teulu’n newid, lle y byddant yn darparu gwasanaethau ar gyfer cleifion mwy cymhleth ac yn cydlynu tîm gofal sylfaenol ehangach. Mae ein cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol yn nodi camau gweithredu allweddol er mwyn darparu gwasanaeth mwy integredig ac amlbroffesiynol ym mhob cymuned. Ac yn gynyddol, mae’r timau hynny’n cael eu creu o amgylch ein 64 o glystyrau. Bydd y tîm yn cynnwys meddygon teulu, fferyllwyr, nyrsys, therapyddion, timau deintyddol, optometryddion, timau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol, y trydydd sector ac eraill yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu’r gofal cywir ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.
Ac ymhell o fod yn fygythiad i ymarfer cyffredinol, fel yr oedd rhai yn ei ofni, mae’r dull newydd hwn wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth bellach gan ein cymuned o feddygon teulu. Rwyf wedi cyfarfod â nifer o feddygon teulu a oedd, a bod yn onest, yn gyffredinol amheus ynglŷn â’r dull clwstwr a thîm ehangach o weithredu, ond maent yn argyhoeddedig bellach mai dyma’r dull cywir ac na fuasent yn dychwelyd i’r ffordd y gwneid pethau yn y gorffennol. Ac mae’r defnydd o arian yn uniongyrchol wedi bod yn rhan bwysig o hynny. Nid wyf yn cydnabod sylwadau Janet Finch-Saunders nad yw hyn wedi gwneud unrhyw wahaniaeth go iawn. Cyfarfûm â meddygon teulu heddiw, fel rwy’n ei wneud ar bob ymweliad ymarfer cyffredinol, sy’n gallu pwyntio at y cyswllt uniongyrchol a’r defnydd uniongyrchol o’r arian hwnnw a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i’w clwstwr, oherwydd eu bod yn adnabod eu poblogaethau ac yn defnyddio’r arian hwnnw’n unol â hynny.
Mae’r £43 miliwn yr ydym wedi’i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi helpu i ddarparu mwy na 250 o swyddi ychwanegol—meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, ffisiotherapyddion, parafeddygon, therapyddion galwedigaethol ac eraill. Ceir nifer o enghreifftiau da iawn o uwch-ymarferwyr nyrsio yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn. Roedd un enghraifft dda a welais yn etholaeth Carl Sargeant, yn yr Hob, lle y mae hynny’n helpu’n fawr i ymdopi â rhai o’r anawsterau y maent wedi’u cael yn recriwtio meddyg teulu arall, ac maent yn cydnabod bod hynny wedi bod yn ychwanegiad pwysig iawn at eu tîm staff. Rwyf wedi gweld mwy o fferyllwyr yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan glystyrau i gefnogi meddygon teulu, i fynd â gwaith oddi wrthynt ac i ddarparu gofal o ansawdd gwell i’r etholwyr unigol hynny, ond gall ddigwydd er mwyn i’r meddyg teulu gael mwy o amser gyda chleifion y mae arnynt wir angen eu gweld. Wrth gwrs, Dewis Fferyllfa—rydym wedi siarad amdano o’r blaen—yw’r llwyfan sy’n golygu y gall ac y bydd rhagor o gymorth yn cael ei ddarparu mewn fferyllfeydd cymunedol ar draws y wlad.
Rwy’n falch iawn fod llawer o’r Aelodau wedi cydnabod, heddiw yn y ddadl hon ac mewn cwestiynau cynharach, swyddogaeth gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac rwy’n croesawu cydnabyddiaeth Angela Burns i gynllun peilot Argyle Street gydag iechyd galwedigaethol, a buom yn siarad yn gynharach am Gydweli a nifer o wahanol therapyddion yno yn ogystal. Ond yn benodol, mae gan ffisiotherapi rôl fawr i’w chwarae yn y dyfodol. Bydd hyd at 30 y cant o faich achosion meddyg teulu yn faterion iechyd cyhyrysgerbydol, ond gall ffisiotherapydd ymdrin yn effeithiol ag oddeutu 85 y cant o’r rheini heb fod angen iddynt weld meddyg teulu. Mae cynllun peilot yng ngogledd-orllewin Cymru wedi gosod ffisiotherapydd mewn pedwar practis meddyg teulu, gan arbed bron i 700 o apwyntiadau meddygon teulu dros dri mis. O ganlyniad, mae hynny bellach wedi’i ymestyn i gynnwys mwy na 40 practis ar draws gogledd Cymru. Felly, unwaith eto, dysgu o’r hyn sy’n gweithio a gwneud pethau’n wahanol, yn hytrach na meddwl yn syml am fodelau o’r gorffennol.
Byddwn yn gwneud hyn drwy weithio ar y cyd â meddygon teulu yng Nghymru, a mynd i’r afael yn benodol â heriau recriwtio meddygon teulu, fel rydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Nid yw’r heriau hyn yn unigryw i Gymru. Yr hyn sy’n unigryw yw’r dull o eistedd o gwmpas bwrdd yn siarad, trafod a chytuno ar yr hyn y dylem ei wneud. Felly, mae gennym yr ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol a lansiwyd ym mis Hydref 2016, sy’n dangos yn glir fod Cymru yn lle deniadol i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu, i hyfforddi, gweithio a byw, a bydd gennyf fwy i’w ddweud am hynny yn y misoedd i ddod ac am ganlyniadau’r ymgyrch honno. Yn rhan o hynny, fodd bynnag, rydym wedi cyhoeddi cynllun cymhelliant. Felly, bydd hyfforddeion sy’n derbyn lle hyfforddi mewn ardal benodol sy’n anodd recriwtio iddi yn gymwys i gael taliad o hyd at £20,000, ac o fis Awst eleni, bydd y cynllun hwnnw’n dechrau ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr a bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda. Hefyd, cyflwynir ail gymhelliant o daliad untro o £2,000 at gostau arholiad pob hyfforddai ar raglen hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu er mwyn helpu i dalu am arholiadau terfynol ar ôl astudio yng Nghymru. Unwaith eto, mae’r adborth hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn ynglŷn â’r ddau fesur. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i edrych ar ble y bydd hyfforddiant meddygol yn digwydd, ar niferoedd hyfforddeion meddygol ac yn arbennig, wrth gwrs, ar gyfleoedd i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru o fewn hynny.
Rwyf am fod yn wirioneddol glir nad ydym wedi torri’r cyllid i ofal sylfaenol. Rwyf wedi fy aflonyddu gan rai o’r ffeithiau amgen heddiw sy’n awgrymu ein bod wedi mynd ag arian allan o ofal sylfaenol. Nid ydym wedi gwneud hynny o gwbl. Yn wir, ni fu ein buddsoddiad ariannol cyffredinol ar draws gofal sylfaenol erioed yn uwch. Yn 2015-16, roedd yn £878.5 miliwn. Roedd hynny’n 13.7 y cant o gyfanswm y gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol. O ran canran, mae hynny’n fwy nag y mae’r Alban yn ei wario ar ofal sylfaenol ar yr un sail, o ran y diffiniad o ofal sylfaenol, ag y cytunodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn yr Alban. Yr her bob amser yw sut rydym yn rhannu cyllideb gyfyngedig i gyflawni ein blaenoriaethau sy’n cystadlu ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd a’r system integredig gyfan.
Cyhoeddwyd cyllid cyfalaf ychwanegol yn y gyllideb derfynol o £40 miliwn i ailbeiriannu’r ystad iechyd yma yng Nghymru ac i ddarparu mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn cael ei dargedu at y genhedlaeth newydd o ganolfannau i wneud yn siŵr ein bod yn darparu mwy o ofal yn nes at adref. Ond rydym yn gwybod bod meddygon teulu a’r tîm gofal sylfaenol ehangach yn wynebu her real iawn, ac nid yn y gaeaf yn unig. Dyna pam y mae gofal sylfaenol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi. Dyna pam y gelwais am ddigwyddiad cenedlaethol ym mis Hydref i ddod â byrddau iechyd at ei gilydd i edrych ar yr hyn y maent wedi’i wneud i fynd i’r afael â’u heriau, i ddeall beth yw’r heriau ar hyn o bryd, yr hyn y maent yn ei wneud yn eu cylch, faint o gefnogaeth sydd iddynt ymhlith cymunedau meddygon teulu a thu hwnt. Ac roedd yn ddiwrnod llwyddiannus, oherwydd roeddwn yn gallu gweld y ffordd y mae meddygon teulu yn cael mwy o ran a mwy o rôl arweiniol wrth bennu, gyda’u partneriaid yn y bwrdd iechyd, yr hyn y byddant yn ei wneud a chyda phwy y byddant yn ei wneud.
Rwy’n gyffrous iawn ynglŷn â’r cyfle i gael mwy o ddysgu ar draws ein system gyfan ac ni fydd hynny’n digwydd heb ffocws parhaus a phwyslais cyson ar bartneriaeth. Dyna sy’n fy nghalonogi’n fawr ynglŷn â’n clystyrau—yr ethos partneriaeth sy’n datblygu, y modd y mae meddygon teulu yn arwain eu tîm gofal iechyd sylfaenol lleol. Mae hynny’n rhan hanfodol o’n llwyddiant yn y dyfodol o ran gofal sylfaenol yma yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’n meddygon teulu a’n tîm gofal sylfaenol ehangach i ddarparu’r gwasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel y byddai pob un ohonom yn dymuno eu gweld.