Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o ymateb i’r ddadl hon ac rwy’n croesawu’r cyfraniadau a wnaed gan Angela Burns a Janet Finch-Saunders yn arbennig, a ychwanegodd at y pwyntiau a wnaeth Caroline Jones yn ei datganiad agoriadol. Rwy’n anghymeradwyo’r modd y dechreuodd llefarydd Plaid Cymru ei araith heddiw, ac roedd yn sicr yn tynnu o gyfanswm gwybodaeth ddynol drwy gamliwio safbwynt fy mhlaid ar y gwasanaeth iechyd gwladol.