Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 25 Ionawr 2017.
Gresynaf hefyd fod fy ffrind, Lee Waters, wedi difetha yr hyn a oedd fel arall yn araith dda iawn y cytunwn i raddau helaeth â hi, drwy wneud rhai pwyntiau dychanol am UKIP yn dymuno mynd yn ôl i’r 1950au. Nid yw’n werth ymateb i hynny hyd yn oed. Hoffwn pe bai’r Aelodau yn y lle hwn yn cyrraedd y safon o ran y parch y maent yn ein hannog ni i’w ddangos ond sydd mor brin ganddynt hwy eu hunain mor aml. Fe ildiaf i Mark Isherwood.