Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Part of QNR – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl bod gan bob bwrdd iechyd lleol systemau cadarn ar gyfer adnabod, rheoli a lleihau risgiau posib i gleifion, staff, gwasanaethau a’r sefydliad. Mae angen hyn i atal niwed, i sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n briodol ac i gynnal hyder y cyhoedd.