3. Cwestiwn Brys: Y Gwaharddiad rhag Teithio i’r Unol Daleithiau am 90 Niwrnod

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:34, 31 Ionawr 2017

Nid oes rhwystr ynglŷn â hynny. Rŷm ni’n dibynnu, wrth gwrs, ar beth mae swyddogion yn Whitehall yn ei wneud ac yn ei ddweud. Rŷm ni wedi bod yn hollol agored, a dweud, fel y gwnaethom ni yn 2015, fod Cymru yn wlad agored i ffoaduriaid. A sefydlais i bwyllgor ar y pryd er mwyn gweithio gyda llywodraeth leol ac eraill i sicrhau bod yna groeso ar gael i bobl pan fyddan nhw’n dod i Gymru. Ac mae hynny yn dal i fod yn iawn nawr, ac, wrth gwrs, er taw cyn lleied o bobl sydd wedi dod i Gymru, mae’r egwyddorion hynny yn dal i’n harwain ni fel Llywodraeth.