Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 31 Ionawr 2017.
Wel, wrth gwrs, mae hwn yn fater i Gyngor Dinas Casnewydd ac, yn wir, atebais gwestiwn yr wythnos diwethaf, pan wnes i atgoffa'r Aelod o'r setliad anodd a heriol iawn—y setliad cyni ariannol parhaus hwnnw a drefnwyd—i Lywodraeth Cymru. Ond byddwn i hefyd yn dweud bod Cyngor Casnewydd yn sicrhau ei fod yn gweithio gyda phartneriaid lleol o ran mesurau am Gasnewydd mwy diogel, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn sicr, wrth gwrs, yn mynd i'r afael â'r pwynt a godwyd gennych chi.