4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:58, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Daw Jeremy Miles â datblygiad i sylw’r Siambr hon sy'n peri pryder mawr. Deallaf fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cyd ar hyn o bryd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd a fyddai'n gorfodi rheolaethau ar allyriadau o generaduron diesel er mwyn diogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.