Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 31 Ionawr 2017.
Mae’r Papur Gwyn a’ch agwedd gynhwysol chi fel yr Ysgrifennydd Cabinet presennol i’w croesawu. Mae’r cynghorau sir yn sicr wedi croesawu cael dweud eu barn, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn y Papur Gwyn i raddau. Er enghraifft, mae’r ffordd y maen nhw i gael hyblygrwydd o fewn rhai meysydd cydweithio ac o ran y map y gallan nhw ei ddefnyddio yn ymateb i rai o’r pryderon a godwyd yn flaenorol pan oedd yna drafodaeth ar hyn i gyd. Y cynghorau eu hunain, yn aml, sydd yn gwybod beth sydd am weithio orau, ac mae pob ardal yn wahanol—ac mae yna gydnabyddiaeth o hynny yn y Papur Gwyn. Ond rwy’n credu hefyd bod angen polisi cenedlaethol ar rai materion er mwyn cysondeb ac er mwyn gweld gweithredu mwy effeithlon.
Rwyf am ofyn tri chwestiwn yn benodol, gan obeithio sbarduno ychydig o drafodaeth yma yn y Siambr yma, ond yn bwysicach, efallai, yn y cynghorau eu hunain ac ymhlith ein cynghorwyr ni. Yn sicr, fe fydd Plaid Cymru yn trafod cynnwys eich Papur Gwyn yn eang, gan gynnwys yn ein fforwm llywodraeth leol mewn ychydig wythnosau. A’r cwestiwn cyntaf yw hyn: a ydych chi’n credu y bydd yr holl haenau gwahanol a’r mapiau gwahanol a fydd yn cael eu creu yn creu dryswch ym meddyliau’r cyhoedd? A ydych chi wedi ystyried sut i oresgyn ychydig ar hyn wrth ddwyn y Papur Gwyn at ei gilydd?
Roedd lleihau dryswch yn un o argymhellion y comisiwn Williams, ac mae yna berig ichi greu system hyd yn oed yn fwy cymhleth a dryslyd yn y Papur Gwyn. Rwy’n meddwl bod y model llywodraethiant a fydd yn cael ei fabwysiadu yn allweddol efo hyn i gyd. Rydych chi’n cynnig y dull cydbwyllgor, efo cynrychiolwyr o bob cyngor yn dod at ei gilydd o gwmpas y bwrdd ac, rwy’n cymryd, yn dewis cadeirydd o’u plith. Efallai y byddai model arall yn ei gwneud yn haws i’r cyhoedd ddeall ble mae’r atebolrwydd yn gorwedd, sef model sy’n cynnwys cydbwyllgor neu gabinet, ond sydd hefyd yn cynnwys maer sy’n cael ei ethol gan bobl y rhanbarth i fod yn gadeirydd neu’n arweinydd ar y corff newydd ar y cyd. Fel hynny, mi fyddai’r cyhoedd yn gwybod yn union ble fyddai’r atebolrwydd yn gorwedd.
Mae’r ail gwestiwn yn ymwneud â chyflwyno pleidlais gyfrannol fel ffordd ddewisol o gynnal etholiadau llywodraeth leol o dan y pwerau newydd sy’n dod i Gymru. Mae Plaid Cymru yn croesawu hyn fel cam i’r cyfeiriad iawn, ac mae’n bwnc rydym wedi dadlau o’i blaid nifer o weithiau yn y Siambr yma. Ond mi fuasem yn mynd ymhellach, gan wneud pleidlais gyfrannol drwy STV yn fandadol i bob cyngor. A fedrwch chi, efallai, esbonio pam nad ydych chi am fynd i’r cam yna? Oni fyddai cael cysondeb—system sydd yn mynd i fod yn un tecach—ar draws Cymru yn haws i bawb ddeall? Rydym ni wedi clywed am gymhlethdod systemau gwahanol mewn gwahanol daleithiau yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft. Oni ddylai’r pwyslais fod ar system sy’n glir i bawb ei ddeall? Ond rydym ni yn croesawu’r symudiad, ac mae cyflwyno’r bleidlais i rai 16 ac 17 oed hefyd yn rhywbeth pwysig rydym ni’n falch iawn o fedru cefnogi. Mae’r materion yma yn ffordd ymarferol o fywiogi democratiaeth leol lle fydd pobl yn teimlo fod eu pleidlais yn cyfri.
Yn drydydd, rydw i’n troi at y Gymraeg, ac rydw i’n croesawu’r cyfle sydd wedi bod inni drafod ambell syniad. Os ydym ni am gyrraedd y nod o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2015, mae’n rhaid cydnabod pwysigrwydd cynllunio ieithyddol economaidd fel ffordd o gryfhau’r ardaloedd traddodiadol Cymraeg, a byddai ei gwneud hi’n fandadol i gynghorau’r gorllewin, sef Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin, gydweithio ar faterion strategol economaidd a fyddai er lles y Gymraeg yn gam cyntaf pwysig, ac yn dangos ymrwymiad penodol y Llywodraeth i’r angen i glymu datblygiad yr iaith efo datblygiad economaidd. Felly, beth ydy eich barn chi ar hyn? A fyddwch chi, maes o law, yn barod i ystyried deddfu er mwyn sicrhau bod y cydweithio gorllewinol yna er lles y Gymraeg yn digwydd? Rydw i’n edrych ymlaen at gael eich atebion chi. Diolch.