Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 31 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr am eich datganiad. Rwy’n llwyr gymeradwyo eich sylwadau ar yr angen i gyflogwyr gefnogi hyn, yn enwedig ar gyfer dysgu yn seiliedig ar waith ac, wrth gwrs, yr angen am barch cydradd. Dywedasoch sawl gwaith nad yw hyn yn seiliedig ar y sefydliad, ond bod y pwyslais ar y dysgwr a chyflawni dyheadau dysgwyr. A wnewch chi roi syniad i ni o sut y bydd y newid strwythurol hwn yn helpu’r rhai hynny sy'n gobeithio astudio addysg ôl 16 drwy gyfrwng y Gymraeg?