Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 31 Ionawr 2017.
Diolch. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach ar sail, fel y clywsom, oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Dywed yr adroddiad cydraddoldeb blynyddol hwn fod gwerthusiad Llywodraeth Cymru o'r cynllun cydraddoldeb ac amcanion cydraddoldeb strategol 2012-16 yn canolbwyntio ar i ba raddau y bu cynnydd mesuradwy ar yr Amcanion.
Fodd bynnag, mae'r gwerthusiad ei hun yn sôn am fylchau mawr yn y dystiolaeth ac yn nodi mai blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru fydd gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, a chyda'r trydydd sector i roi blaenoriaeth i lenwi'r bylchau hyn.
Wel, mae'n ddegawd ers i mi ac eraill ar y Pwyllgor Cyfle Cyfartal bryd hynny alw am y tro cyntaf ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith i symud cydraddoldeb yng Nghymru ymlaen, gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi’u creu ar gyfer pob adroddiad yn y dyfodol. Mewn dadl yma yn 2009 ar gydraddoldeb, cynigiais welliant, unwaith eto yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni hyn. Felly. Felly, dyma pam ein bod yn cyflwyno gwelliant 2 heddiw, gyda thrafodaeth ar yr adroddiad a’r gwerthusiad yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn dal heb wneud hyn.
Fel y mae’r adroddiad yn ei gofnodi:
mae'n rhaid i gyrff yn y sector cyhoeddus "gynnwys pobl y mae'n ystyried sy’n gynrychioliadol o un neu fwy o'r grwpiau gwarchodedig ac sydd â diddordeb mewn sut mae awdurdod yn cyflawni ei swyddogaethau".
Un o egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw y dylai awdurdod lleol ymateb mewn ffordd gyd-gynhyrchiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i amgylchiadau penodol pob unigolyn. Cymerwyd hynny o'r Ddeddf. Fel y cadarnhaodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd wedi cadarnhau i mi, mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd benodol ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfranogiad pobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau gofal a chymorth.
Fodd bynnag, mae adroddiadau pryderus bod awdurdodau lleol yn methu â deall hyn. Dywedodd y gymuned fyddar leol yng Nghonwy wrthyf nad oedd unrhyw ymgynghori, rhybudd ymlaen llaw, gwybodaeth na chynlluniau pontio pan gafodd Conwy wared ar y gwasanaethau iaith arwyddion hanfodol a gomisiynwyd o’r tryddydd sector y maent yn dibynnu arnynt. Dywedodd y cyngor fod ganddynt ddarpariaeth ddigonol i ddarparu'r gwasanaethau hyn yn fewnol a’u bod yn gweithredu yn unol â'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesian. Ond yn hytrach na bod gwasanaethau ymyrraeth ac atal yn sicrhau annibyniaeth ac yn lleihau’r pwysau ar wasanaethau statudol, dywedodd y gymuned fyddar wrthyf nad oedd y cyngor yn dangos unrhyw ymwybyddiaeth o fyddardod a bod eu hannibyniaeth wedi cael ei gymryd oddi arnynt.
Er anfantais i etholwyr yr effeithir arnynt, nid oedd Wrecsam yn ymwybodol bod y Ddeddf yn berthnasol i'r broses dendro ar gyfer gofal preswyl, ac nid oedd Sir y Fflint yn ymwybodol ei bod yn berthnasol i gyflogaeth neu gael mynediad i'r llwybrau cyhoeddus yn unol â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol. Felly mae gwelliant 1, yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn cysylltiad â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gyd-gynhyrchu'r atebion i ddiwallu eu canlyniadau lles personol.
Croesawais Glymblaid Ffoaduriaid Cymru i ddigwyddiad Lloches yn y Senedd ym mis Rhagfyr. Mae angen cynllun gweithredu mesuradwy er mwyn i Gymru ddod yn genedl noddfa, fel sy’n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o bobl hŷn yn cael eu targedu gan droseddwyr oherwydd eu gwendidau tybiedig.
Gan alw am weithredu i gau'r bwlch o ran cyrhaeddiad, mae adroddiad Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru yn dyfynnu cyrhaeddiad TGAU hynod o isel ymhlith plant Sipsiwn a Theithwyr, plant sy'n derbyn gofal, plant ag anghenion addysgol arbennig a phlant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Eto i gyd, mae Sir y Fflint wedi cael caniatâd i gau ysgol oedd yn ymwneud â’r union grwpiau hyn ac wedi gwella eu canlyniadau addysgol.
Mae'r comisiwn yn adrodd mai dim ond 42 y cant o bobl anabl sydd mewn cyflogaeth, gan gynnwys dim ond 1 o bob 10 o bobl ag awtistiaeth, o'i gymharu â 71 y cant o bobl nad ydynt yn anabl. Gyda 42 yn oedran ymddeol cyfartalog ar gyfer rhywun sy'n byw gyda sglerosis ymledol, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i’w galluogi i aros yn y gwaith cyhyd ag y bo modd?