Part of QNR – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2017.
Mater i’r banciau eu hunain yw gwneud penderfyniadau ynghylch cau canghennau, ond rydym yn cydnabod yr effaith negyddol y gall eu cau ei chael ar gymunedau. Er nad yw’n fater sydd wedi’i ddatganoli, rwy’n croesawu’r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd swyddfeydd post yn gallu darparu gwasanaethau i lenwi rhai o’r bylchau sy’n cael eu gadael ar ôl i ganghennau banc gau.