<p>Y Diwydiant Pysgota yng Nghymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:30, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae llawer o gwestiynau ac ansicrwydd ynghlwm wrth ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol mewn perthynas â dyfodol diwydiant pysgota Cymru. Er mwyn diogelu ffyniant y diwydiant a’n cymunedau arfordirol, bydd fy adran yn datblygu polisi pysgodfeydd sy’n edrych tua’r dyfodol, fel y nodir yn y Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’.