<p>Y Diwydiant Pysgota yng Nghymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:33, 1 Chwefror 2017

Ar yr un thema, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi’n gwybod, wrth gwrs, pa mor fregus yw diwydiant cocos Gŵyr oherwydd marwolaeth cynnar stociau ym moryd Burry. Ac efallai fydd y Bil diddymu mawr yn diogelu’r diwydiant hwn drwy gadw rheoliadau pysgod cregyn yr Undeb Ewropeaidd, ond ni fydd yn amddiffyn marchnadoedd pysgod cregyn yn yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn hybu ein pysgod cregyn o fewn gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, i sicrhau bod ein cynnyrch yn mynd i fod yn ddewis cyntaf—gyda thariffau, neu hebddynt?