Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 1 Chwefror 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb diweddar i gwestiwn ysgrifenedig a ofynnais, gwnaethoch yn glir nad ydych wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i’ch cymheiriaid gweinidogol ar draws y DU ynghylch y posibilrwydd o gofrestr cam-drin anifeiliaid, ac rydych hefyd wedi cadarnhau nad oes gennych unrhyw fwriad i godi’r mater o gynyddu cosbau ar gyfer troseddau sy’n ymwneud ag anifeiliaid ar hyn o bryd. O ystyried y byddwch yn cyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yfory, yn ôl yr hyn a ddeallaf, a allwch gadarnhau y byddwch yn awr yn dwyn y materion hyn i sylw Llywodraeth y DU, ac ar ôl y cyfarfod hwnnw, a wnewch chi hefyd gyhoeddi datganiad yn amlinellu agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid drwy gydol y pumed Cynulliad?