Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 1 Chwefror 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yn ystyried bod problem gudd yng Nghymru o ran mwncïod a phrimatiaid eraill. Credant fod oddeutu 120 yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes yng Nghymru, a bod rhai ohonynt o leiaf yn dioddef yn ddiangen o ganlyniad i ddiffyg gofal a’r ffaith nad ydynt yn addas i gael eu cadw fel anifeiliaid domestig. Mewn gwirionedd, mae’r RSPCA yn galw am waharddiad llwyr ar gadw mwncïod a phrimatiaid eraill fel anifeiliaid anwes yng Nghymru. A wnewch chi ystyried yr achos dros waharddiad o’r fath?