<p>Datblygiad Fferm Wynt Mynydd y Gwair</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:04, 1 Chwefror 2017

Diolch am yr ateb yna. Mi fydd Aelodau yn ymwybodol bod y cais i ddatblygu fferm wynt ar dir sy’n eiddo i’r Dug Beaufort ar Fynydd y Gwair ger Felindre, Abertawe, wedi bod yn un sydd wedi rhygnu ymlaen dros 20 mlynedd ac wedi creu gwrthwynebiad cryf yn lleol. Mae’r saga ddiweddaraf, yn ogystal â beth rydych chi wedi’i ddweud yn fanna, yn ymwneud â’r mynediad i’r safle o’r A48 ym Mhontarddulais. Ynglŷn â’r safbwynt yna yn benodol, a allwch chi roi diweddariad i’r Siambr ynglŷn â’r trafodaethau diweddaraf yr ydych wedi’u cael gyda’r datblygwyr, a sut a phryd a ydych chi’n disgwyl i’r sefyllfa bresennol gael ei datrys?