Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 1 Chwefror 2017.
Mae digonedd o wrthwynebiad o hyd i Fynydd y Gwair, ac mae trigolion lleol yn pryderu hefyd ynglŷn â’r effaith bosibl ar boblogaeth ystlumod yn lleol. Tynnaf sylw at hyn fel hyrwyddwr yr ystlum pedol lleiaf yn y Cynulliad. Mae’r trigolion yn nodi adroddiad diweddar prifysgol Caerwysg ar farwolaethau ystlumod o ganlyniad i’r ffaith fod y llafnau’n tarfu ar sonar ac ar botensial clwydydd ger y trac mynediad arfaethedig i’r safle. Mae ecolegydd cymwysedig y cwmni yn fodlon nad yw’r clwydydd ystlumod y daethant o hyd iddynt wedi’u lleoli mewn coed y bwriedir eu cwympo, er bod arbenigwr cymwysedig arall wedi cynghori bod clwydydd wedi cael eu darganfod mewn coeden arall sydd i fod i gael ei chwympo. Gan ei bod yn ymddangos bod rhywfaint o ddryswch ynglŷn â pha goed a pha glwydydd y mae pawb yn siarad amdanynt, a ydych yn credu y dylid sicrhau rhywfaint o eglurder cyn cwympo unrhyw goed?