<p>Mannau Gwyrdd a Pharciau yng Nghymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:10, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Roeddwn ar ben fy nigon pan enwyd Parc Pont-y-pŵl yn barc gorau Cymru ar gyfer 2016, yn dilyn pleidlais gyhoeddus gan elusen Meysydd Chwarae Cymru tuag at ddiwedd y llynedd. Hefyd, cafodd y parc ei gynnwys ar restr fer o blith 214 o geisiadau am wobr parc gorau’r DU, gan golli o drwch blewyn i Barc Glen Rouken yn yr Alban. Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono ym Mhont-y-pŵl, ac mae’r parc ei hun yn unigryw. Sawl parc yng Nghymru, neu ledled y DU, a all ddweud eu bod yn cynnwys pyllau, gerddi Eidalaidd, maes chwarae, groto cragen a ffug-gastell hanesyddol, clwb rygbi Pont-y-pŵl, canolfan hamdden a hyd yn oed llethr sgïo? A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Parc Pont-y-pŵl, yn ogystal â thalu teyrnged i holl waith caled ac ymroddiad cyfeillion Parc Pont-y-pŵl sy’n rhoi eu hamser i sicrhau bod y parc yn cael ei gadw’n lân ac yn daclus er mwyn i bawb ei fwynhau?