<p>Mannau Gwyrdd a Pharciau yng Nghymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:11, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Gymdeithas Mannau Agored wedi galw ar awdurdodau lleol a datblygwyr i sicrhau mai 2017 yw blwyddyn maes y pentref. Maent yn annog datblygwyr i gynnwys meysydd pentref cofrestredig ar eu safleoedd, er mwyn sicrhau lle gwyrdd gwarantedig i bobl leol ar gyfer gweithgareddau hamdden. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i drafod y mater hwn gyda’i chyd-Aelod yn y Cabinet i weld beth y gellir ei wneud i gynyddu nifer y meysydd pentref yng Nghymru?