Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch. A fedrwch chi gadarnhau a ydy’r cynllun presennol yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth? Beth fyddai’n digwydd ar ôl hynny? A fydd y rhaglen yn parhau fel ag y mae o, neu a fydd o’n dod yn rhan o rywbeth mwy? Beth fydd y canllawiau, a beth yw’r amserlen efo hynny? Mae awdurdodau lleol yn awyddus i gael y manylion cyn gynted â phosib er mwyn cynllunio ymlaen. Yn wir, mae yna ansicrwydd a diffyg eglurder cyffredinol yn y maes adfywio. A ydych chi’n cytuno nad ydy’r weledigaeth yn glir ar hyn o bryd? Ac os mai’r bwriad ydy lleihau tlodi, a fydd y rhaglenni newydd yn gosod deilliannau clir, pwrpasol er mwyn cynorthwyo i greu’r gwahaniaeth y mae’r ddau ohonom ni yn gweithio tuag ato fo?