Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 1 Chwefror 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gobeithio y buasech yn cytuno â mi fod Casnewydd wedi gweld defnydd buddiol o Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ar gyfer adfywio canol y ddinas, gan greu adeiladau preswyl a defnydd yn lle manwerthu i bob pwrpas. Beth bynnag a ddaw yn y dyfodol o ran Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid neu gynllun tebyg, a wnewch chi barhau i weithio’n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd i ddatblygu’r rhaglen adfywio bwysig a buddiol hon?