<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:31, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n fy mhoeni’n wirioneddol fod gennym blant sy’n byw mewn cartrefi di-waith ac yn byw mewn tlodi ble bynnag y maent yn byw, boed hynny mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf neu yn rhywle arall. Ac nid yw bob amser yn fater sy’n ymwneud â dosbarth—gall ddigwydd i unrhyw gymuned ac unrhyw unigolyn.

Mae’n uchelgais gan y Llywodraeth hon i fynd i’r afael â thlodi, a dyna pam ein bod yn ystyried adolygu ein holl raglenni a’n hymyriadau, er mwyn sicrhau ein bod yn ymdrin â’r bobl sydd angen, mewn ffordd y gallwn ei chyflawni gyda’r rhaglenni yr ydym yn buddsoddi ynddynt. Nid yw’n rhoi unrhyw bleser i mi ddweud bod y niferoedd hynny’n ystyfnig. Ond nid oes dim o’i le ar unrhyw Lywodraeth gydag uchelgais yn ceisio gwneud y newidiadau hynny.