Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 1 Chwefror 2017.
Rwy’n falch fod yr Aelod a minnau yn amlwg yn dod at ein gilydd o ran ein polisïau mewn rhai meysydd. [Chwerthin.] Gadewch i ni beidio â bod yn rhy uchelgeisiol. Rwy’n meddwl bod yr Aelod yn iawn i grybwyll mater gofal iechyd darbodus. Ers amser hir, mae Mark Drakeford wedi bod yn tynnu sylw at hyn yn y Cabinet, ac rwy’n rhannu ei farn ar hyn ynglŷn ag atal ac ymyrryd yn gynnar. A dyna pam ein bod yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, lle bynnag y bont mewn teuluoedd a chymunedau. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi ynddo yn awr, er mwyn diogelu ar gyfer y dyfodol. Nid mater moesol yn unig ydyw, mae’n fater cyllidol hirdymor i unrhyw Lywodraeth mewn grym.