<p>Chwarae Hygyrch</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:43, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae chwarae hygyrch yn bwysig iawn wrth gwrs, ond mae cyfraniad mawr i’w wneud gan y defnydd o chwarae fel therapi hefyd, yn enwedig o ran y rhai sydd wedi cael profiad niweidiol yn ystod plentyndod. Mae’n rhywbeth y credaf nad ydym yn ei ddefnyddio’n ddigonol, neu’n sicr, nid yng ngogledd Cymru yn fy mhrofiad i. Felly, a allech ddweud wrthyf pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu gwasanaethau therapi chwarae yng Nghymru, a hefyd a fuasech yn cytuno i gyfarfod â grŵp o ymarferwyr yng ngogledd Cymru a fuasai am drafod eu syniadau ynglŷn â sut y gallent chwarae rhan gryfach yn cyflawni rhai o’r canlyniadau cadarnhaol yr ydym i gyd am eu gweld i blant a phobl ifanc yng Nghymru?