<p>Chwarae Hygyrch</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:44, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, dywedir yn aml mai chwarae yw gwaith plant, ond mewn ardaloedd difreintiedig, mae llawer o blant heb fynediad at fannau chwarae diogel. Genhedlaeth neu fwy yn ôl, yn aml buasent wedi chwarae ar y stryd. Nid yw hynny hyd yn oed yn opsiwn bellach. Ac rydych yn iawn—mae gan Lywodraeth Cymru hanes da iawn yn y maes hwn. Ond rwy’n credu mai un gwendid, efallai, yw nad yw wedi cyrraedd y cam cynllunio lle byddwn yn edrych ar ddarparu mannau chwarae, ac yn arbennig yn yr ardaloedd difreintiedig hynny, a lle nad oes rhai ar gael, ein bod yn cynllunio ar eu cyfer. Mae yna ffyrdd o wneud hyn, ond mae gofyn cael arloesedd a phenderfyniad.