Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 1 Chwefror 2017.
Ac fe ddywedais hynny yn fy ymateb blaenorol. Rwy’n meddwl bod yna adegau brig pan fo digwyddiadau chwaraeon yn creu pwysau uchel i ddarparwyr gwasanaeth, ac mae’n bwysig i ni ein bod yn gallu cyfleu neges i bobl i ddweud bod rhif llinell gymorth neu fecanwaith cymorth ar waith. Ond mae’n rhywbeth rwy’n awyddus iawn i edrych arno yn y tymor hir, ac rwyf wedi dechrau trafodaeth gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu ledled Cymru er mwyn sicrhau y gallwn gael ymateb ar y cyd yma, ar draws Cymru, ar ffurf rhaglen negeseuon arferol y gall pawb ohonom ei rhannu drwy gydol y flwyddyn. Felly, rwy’n obeithiol y bydd hynny’n rhoi canlyniadau gwell i ni o ran cyflawni.