Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac rydw i’n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad yma ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf rydym ni yn ei ganol o, 2016-17. Nawr, wrth gwrs, mae’r gaeaf yn gyfnod heriol iawn i’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n adeg pan fo’r pwysau sy’n codi gydol y flwyddyn yn sgil poblogaeth sy’n heneiddio, y galw cynyddol am wasanaethau, a heriau’r gweithlu, i gyd ar eu mwyaf amlwg. Dim ond ryw bythefnos yn ôl dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru fod y gwasanaeth iechyd eisoes wedi wynebu heriau eithriadol y gaeaf hwn, a’i fod yn gweld rhai o’r dyddiau prysuraf erioed yn hanes unedau brys ein hysbytai a gwasanaethau ambiwlans Cymru.
Yn yr yn wythnos, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon y byddai targedau penodol ar gyfer meddygon teulu yn cael eu hatal dros dro i helpu i ryddhau apwyntiadau yn ein practisys, a hynny am fod cymaint o bwysau ar ofal sylfaenol y gaeaf hwn. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn sicr yn ymwybodol hefyd o’r sylw yn y cyfryngau ar bwysau tebyg ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac yn Lloegr yn arbennig.
Nawr, roeddem ni fel pwyllgor yn teimlo ei bod yn bwysig ymchwilio i weld pa mor barod yw gwasanaeth iechyd gwladol Cymru a gwasanaethau gofal cymdeithasol i ymdopi â’r pwysau ar wasanaethau gofal heb eu trefnu dros y gaeaf hwn. Fel rhan o’r gwaith hwn, roeddem ni’n awyddus i edrych ar y cynnydd a wnaethpwyd yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers gwaith y pwyllgor blaenorol yn 2013-14. Roedd ein cylch gorchwyl hefyd yn rhoi pwyslais, ymhlith pethau eraill, ar lif cleifion, gan gynnwys gofal sylfaenol y tu allan i oriau arferol, gwasanaethau ambiwlans brys, adrannau achosion brys, ac oedi wrth drosglwyddo gofal.
Treuliwyd haf 2016 yn gofyn i randdeiliaid am eu barn ynghylch a oedd gwasanaeth iechyd gwladol Cymru mewn sefyllfa i allu ymdopi efo’r pwysau ar wasanaethau gofal heb ei drefnu yn ystod y gaeaf i ddod. Cawsom ni ymateb da iawn ac rydym ni’n ddiolchgar i bawb am roi o’u hamser i ysgrifennu atom a chyflwyno tystiolaeth i ni yn ein cyfarfodydd ffurfiol.
Dyma'r dystiolaeth sydd wedi helpu i lunio casgliadau clir iawn a'n galluogi ni i lunio’r hyn sydd, yn ein barn ni, yn argymhellion cadarn i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog. Er bod llawer o'n hargymhellion yn bwysig o ran rheoli pwysau ychwanegol dros y gaeaf, mae angen eu hystyried fel rhan o adolygiad llawer ehangach i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn wir, ein casgliad pwysicaf yw y byddai gwasanaeth iechyd gwladol a gwasanaeth gofal cymdeithasol mwy gwydn mewn sefyllfa well i ymdopi efo’r cynnydd sylweddol yn y galw dros gyfnod y gaeaf. Os na fydd modd sicrhau'r gwytnwch hwn drwy gydol y flwyddyn, bydd yr ymdrechion i ymdopi â phwysau penodol y gaeaf yn ymwneud mwy â cheisio cyfyngu ar eu heffeithiau na newid y system gyfan, sef yr hyn y mae gwir angen ei wneud. Bydd darllenwyr cyson a chraff ein hadroddiad ni yn gwybod taw paragraffau 71 i 75 sydd yn dweud hyn.
Rwy'n nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf yn rhannol. Rydym ni i gyd yn ymwybodol y cafodd byrddau partneriaeth rhanbarthol statudol eu sefydlu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel ffordd o fwrw ymlaen â'r agenda i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Fodd bynnag, rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod bod mwy i'w wneud ac y bydd ei Lywodraeth yn cefnogi gwelliannau pellach.
Yn gyffredinol, daethom i'r casgliad fod angen gwell integreiddio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, yn y broses o gynllunio ac o ran darparu gwasanaethau, a bod angen cynnwys y sector annibynnol—gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau gofal cartref fel ei gilydd—yn y gwaith hwn hefyd. Yng ngoleuni hyn, testun siom i mi yw bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylai gomisiynu neu efallai adolygu unrhyw ymchwil sydd ar gael i effeithiolrwydd cyd-leoli gwasanaethau gofal sylfaenol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig gan ei fod wedi cydnabod y dystiolaeth ar draws y Deyrnas Unedig sy'n dangos effeithiolrwydd cyd-leoli. Mae'r wybodaeth y mae wedi'i darparu ynghylch gwasanaethau y tu allan i oriau arferol yn gweithio ochr yn ochr ag adrannau achosion brys i'w chroesawu, serch hynny.