Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu adroddiad y pwyllgor a’r ystod o sylwadau a wnaed yn y ddadl heddiw, er na fyddaf yn cytuno â phob un ohonynt. Ond rwy’n falch iawn fod yr adroddiad yn cydnabod y gwelliannau yr ydym eisoes wedi’u gwneud wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf, a’r heriau parhaus yr ydym yn dal i’w hwynebu.
Mae’r pwyllgor, wrth gwrs, yn gwneud nifer o argymhellion ar draws iechyd a gofal cymdeithasol sy’n adlewyrchu pwysigrwydd rheoli pwysau’r gaeaf, ond hefyd yr heriau sy’n wynebu ein gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn. I gychwyn, rwy’n awyddus i gydnabod eto fod ein system iechyd a gofal dan bwysau gwirioneddol a sylweddol iawn. Dywedais cyn y Nadolig, pan ymddangosais gerbron y pwyllgor, ein bod wedi paratoi’n well nag o’r blaen ar gyfer y gaeaf, ond y bydd yna ddyddiau anodd wrth gwrs, ac fe fu. Mae ein hysbytai a’n gwasanaethau cymdeithasol wedi gweld ymchwydd yn y galw, yn enwedig gan gleifion sydd ag anghenion cynyddol gymhleth. Ac rwy’n dweud eto: mae dyddiau anos i ddod eto cyn y daw’r gaeaf i ben, a dylai pob un ohonom fod yn ddiolchgar iawn ein bod ni yma yn y Siambr, ac nid yn wynebu’r pwysau hwnnw ar y rheng flaen. Oherwydd mae’n glod i ymrwymiad a sgiliau ein staff, er gwaethaf y pwysau y maent yn ei wynebu, fod y mwyafrif helaeth o gleifion a dinasyddion yn parhau i dderbyn gofal o ansawdd uchel mewn ffordd broffesiynol ac amserol.
Nid yw hynny’n golygu ein bod, fel Llywodraeth, yn hunanfodlon neu’n anwybyddu maint yr heriau y mae ein system gyfan yn eu hwynebu. Rydym yn dibynnu ar ein staff, ac rydym yn falch yn y Llywodraeth hon o’u gweld fel partneriaid. Dyna pam nad wyf wedi, ac na fyddaf yn mynd ben-ben â meddygon iau. Dyna pam nad wyf wedi, ac na fyddaf yn rhoi’r bai ar feddygon teulu am bwysau’r gaeaf. A dyna pam rwy’n falch o fod yn aelod o Lywodraeth sy’n buddsoddi yn ein gweithlu gofal cymdeithasol.
Rydym yn fwriadol wedi mabwysiadu ymagwedd system gyfan tuag at gynllunio, ac nid wyf yn derbyn beirniadaeth Rhun ap Iorwerth fod y system gofal cymdeithasol rywsut yn cael ei hanghofio neu ei hanwybyddu. Rydym yn parhau i ariannu gofal cymdeithasol ar lefel lawer gwell nag yn Lloegr, ond nid yw hynny’n golygu nad oes pwysau ar ofal cymdeithasol yma yng Nghymru; nid yw hynny’n wir, yn bendant. Mae gofal cymdeithasol yn rhan bwysig o’r cynlluniau a’r ddarpariaeth yn y gaeaf, ac mae gofal cymdeithasol hefyd yn rhan bwysig o’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar ddadansoddi’r farchnad. Rydym yn gweithio, a byddwn yn parhau i weithio, ar draws iechyd, llywodraeth leol, mewn partneriaeth â’r trydydd sector a’n gwasanaethau brys. Nawr, nid yw hynny’n golygu bod ein system yn berffaith ar hyn o bryd, ond mae cynnydd go iawn yn cael ei wneud a bydd yn parhau i gael ei gryfhau ymhellach mewn ffordd integredig, gan weithio rhwng y gwasanaethau hynny.
Nawr, rwy’n cydnabod, wrth gwrs, y gall llunio gwasanaethau sy’n gallu rhagweld ac ymateb i natur gyfnewidiol y galw gymryd amser i’w gael yn iawn. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o ysgogi gwelliannau pellach, ac roeddwn yn falch o weld argymhellion y pwyllgor yn adlewyrchu llawer o’r gwaith hwn. Cafodd sefydliadau eu hannog i adeiladu ar eu cynlluniau a’u profiad o flynyddoedd blaenorol i baratoi ar gyfer y gaeaf hwn a thu hwnt. Rwyf wedi fy nghalonogi bod lefelau oedi wrth drosglwyddo wedi gostwng eto ym mis Rhagfyr—mae hynny’n anarferol; nid dyna a welwn dros y ffin—mae amseroedd ymateb ambiwlans yn well na’r gaeaf diwethaf ac yn parhau felly; ac mae 111 wedi bod yn llwyddiant hyd yma yn ei ardal beilot yn Abertawe Bro Morgannwg, ac nid oedd hynny’n wir pan gafodd ei gyflwyno ar draws Lloegr. Felly, rydym yn cael amrywiaeth o bethau’n iawn, ac rydym yn cael amrywiaeth o bethau sy’n gwella o flwyddyn i flwyddyn. Yr her yw: a ydynt yn gwella’n ddigon cyflym i ddal i fyny gyda natur gyfnewidiol a chynyddol y galw? Ac mewn gwirionedd, gwelwn fwy o bobl yn eu cartrefi y gaeaf hwn; mae hynny’n rhan o’r rheswm pam ein bod yn parhau i ymdopi. Ceir llawer o dystiolaeth sy’n dangos bod ein dull o weithredu’n anelu i’r cyfeiriad cywir, ond mae’r cwestiwn bob amser yno: a yw’n ddigon ac a allwn wneud mwy?
Cafwyd cryn dipyn o ffocws, wrth gwrs, ar ysbytai, ond rwy’n falch fod y pwyllgor yn cydnabod rôl hollbwysig meddygon teulu, gofal cymdeithasol, y gronfa gofal canolraddol, gwasanaeth y tu allan i oriau a staff ambiwlans yn trin a gofalu am bobl. Mae argymhellion 1 i 5, 8 a 9 yn benodol yn canolbwyntio ar gynllunio, darparu a dysgu ar draws ein system gyfan, a dylwn ddweud, gan fod sylwadau wedi’u gwneud ar y mater, fod argymhelliad 5 wedi’i wrthod am ein bod yn y bôn yn gwneud yr hyn y gofynnwyd i ni ei wneud, ac rwy’n awyddus i beidio â dyblygu neu ailgychwyn ein hymdrechion. Ond rwy’n credu bod llawer o wersi i’w dysgu o ran sut yr awn ati i gynllunio, darparu a chydleoli ein gwasanaethau amrywiol, a bydd rhai o blaid cydleoli mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a rhai’n dweud, ‘A dweud y gwir, ni ddylech gydleoli popeth o fewn yr ysbyty.’ Mae’n rhaid i ni feddwl sut y darparir gofal mewn lleoliadau gwahanol o gwmpas ein cymuned gyfan.
Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod yr adroddiad yn sôn am hyn yn ogystal: fod yn rhaid i fyrddau iechyd reoli gofal wedi’i drefnu a heb ei drefnu dros y gaeaf. Y gaeaf hwn, mae byrddau iechyd wedi newid ffocws eu gweithgarwch, gyda mwy o weithgarwch cleifion allanol ac achosion dydd, nad yw’n dibynnu ar welyau i gleifion mewnol. Ac rydym wedi darparu’r £50 miliwn ychwanegol hwnnw i’r GIG y gaeaf hwn er mwyn helpu i reoli’r galw, ac rwy’n disgwyl gweld gwelliannau pellach ar ddiwedd y flwyddyn hon mewn amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth a diagnosteg, ac y gwelwn gynnydd pellach mewn gweithgaredd dewisol drwy’r gaeaf. Ac rwy’n disgwyl i’r sefyllfa ar ddiwedd mis Mawrth eleni wella eto o gymharu â’r llynedd.
Wrth gwrs, byddwn yn gwerthuso’r modd y mae ein system gyfan wedi ymdopi drwy’r gaeaf. Rwyf wedi dweud yn glir iawn y gallwn ddisgwyl y bydd yna wersi i’w dysgu ac angen gwella. Fodd bynnag, mae hynny’n cynnwys llwyddiant neu fethiant Dewis Doeth, ac effaith y cyhoedd a’u defnydd o’r system gyfan. Dylem addysgu a hysbysu ein cyhoedd, nid eu beio. Ond mewn gwirionedd, mae’r cyhoedd yn rhan o’r gwaith o’n helpu i wneud y defnydd gorau o’r system gyfan. Rwy’n falch o ddweud y gofynnir am farn clinigwyr a’r cyhoedd fel rhan o’r gwerthusiad o’n hymateb a’n darpariaeth yn ystod y gaeaf.
Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedodd Angela Burns am ei fod yn bwynt a wneuthum ar sawl achlysur yn y gorffennol. Yn rheolaidd dywedir wrthym drwy gydol y flwyddyn ym maes iechyd nad oes y fath beth â phwysau’r gaeaf mewn gwirionedd gan fod pwysau drwy gydol y flwyddyn ar draws ein system, ac mae’n wir, ceir pwysau drwy gydol y flwyddyn ar draws ein system, mewn gofal dewisol ac mewn gofal brys hefyd. Ond yna, bob gaeaf, rydym yn siarad am yr heriau penodol sy’n dwysáu yn y gaeaf, a hynny am fod gennym fath gwahanol o glaf ac angen gwahanol yn dod drwy ein drysau mewn niferoedd gwahanol yn y gaeaf. Mae’r niferoedd cyffredinol yn mynd i lawr mewn gwirionedd, ond mae natur y galw yn newid yn sylweddol. Dyna pam y bwriadwn ddarparu, a pham ein bod yn darparu capasiti gwely ychwanegol yn y gaeaf. Dyna pam rwy’n gwrando ar feddygon teulu, fel yr oedd Dai Lloyd yn cydnabod, a pham rwy’n llacio fframweithiau ansawdd a chanlyniadau drwy weddill y gaeaf hwn er mwyn rhoi mwy o amser i feddygon teulu ofalu am eu cleifion mewn gwirionedd.
Fodd bynnag, dylem gydnabod cyd-destun ein system iechyd a gofal drwy gydol y flwyddyn, a’r dewis sy’n rhaid i ni ei wneud—nid yn unig yn y gaeaf, ond wrth gynllunio a darparu ein system drwy gydol y flwyddyn. Rydym i gyd yn gwybod am y pwysau y clywir amdano’n fynych sydd ynghlwm wrth ddisgwyliadau’r cyhoedd a phoblogaeth sy’n heneiddio, effaith tlodi, ein heriau iechyd cyhoeddus hirsefydlog, ac wrth gwrs, effaith anochel caledi Llywodraeth y DU. Mae’n nodwedd reolaidd a dealladwy o wleidyddiaeth fod pobl yn galw am fwy o arian ac adnoddau lle y ceir heriau, ac mae hynny lawn mor wir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ag unrhyw weithgaredd arall. Ond mae galw am gynnydd yn y gwariant ar iechyd, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn alwad am yr amhosibl, a ninnau’n wynebu realiti caledi.