Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a allaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei gyfraniad a diolch hefyd i aelodau eraill y pwyllgor, ac Aelodau sydd ddim yn aelodau o’r pwyllgor, am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddechrau drwy gyfeirio at bwysigrwydd cydnabod bod yn rhaid inni wneud rhywbeth ynglŷn â’r ffliw a hefyd y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol a’r pwysau sydd ar ein gwlâu ni, a’r angen i fynd i’r afael â’r sefyllfa yna.
Wedyn Angela Burns, hefyd, yn trin a thrafod yn ei ffordd aeddfed, ddihafal ei hun, ac yn gwneud pwyntiau gwerthfawr ynglŷn â’r ffaith sy’n cael ei gydnabod gan bawb: bod cleifion gwahanol yn ymddangos ym mhrysurdeb y gaeaf ac y dylem ni fod yn gallu cynllunio gogyfer hynny achos mae’r un math o beth yn digwydd gaeaf ar ôl gaeaf. Rydym ni’n disgwyl gaeaf arall ar ddiwedd y flwyddyn hon hefyd. Roedd hi hefyd yn gwneud y pwynt ynglŷn â gofal integredig.
Rydw i’n ddiolchgar iawn am gyfraniadau Caroline Jones, Janet Finch-Saunders a Gareth Bennett i’r ddadl, achos mi oedd hwn yn adroddiad pwysig iawn ar barodrwydd y gwasanaeth iechyd i ymdopi efo’r gaeaf. Roedd o’n ganlyniad, wrth gwrs—roedd yna adroddiad wedi bod yn flaenorol yn 2013-14, ac felly adeiladu ar yr argymhellion hynny oedd y bwriad a gweld pa fath o dwf a oedd wedi bod yn y gwaith sydd yn mynd rhagddo.
Wrth gwrs, prif gasgliad y pwyllgor ydy y dylai’r holl system yr ydym ni i gyd wedi bod yn sôn amdani hi—nid jest y gwasanaeth iechyd, ond hefyd y gwasanaeth gofal cymdeithasol—fod yn fwy gwydn gydol y flwyddyn, ac felly mewn sefyllfa lawer gwell wedyn pan fo pwysau ychwanegol yn dod ar yr adegau prysur iawn yna yng nghanol y gaeaf, a bod y system i gyd yn gallu delio â hynny yn nhermau’r capasiti pan fo yna nifer uchel iawn o gleifion yn gallu ymddangos ar rai dyddiau penodol, fel yr ydym ni wedi clywed amdanyn nhw yn ddiweddar. Wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bydd y trefniadau sydd mewn lle y gaeaf yma yn cael eu gwerthuso yn fuan ac rydym ni’n edrych ymlaen yn awyddus at ganfyddiadau’r gwerthusiad yna.
Ac i gloi, wrth gwrs, ac i ategu hefyd ddiolchiadau y sawl sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma yn nhermau sylweddoli cyfraniad arwrol y staff sydd yn y gwasanaeth iechyd. Yn naturiol, rwy’n eu cyfarfod nhw yn aml iawn yn y gweithle, ac roeddwn i’n teimlo’r emosiwn a’r angerdd yna yn y gwahanol gyfraniadau i’r adolygiad yma yn ein pwyllgor. Mae yna gariad angerddol tuag at ein gwasanaeth iechyd ni—ie, o ochr y cleifion, ond hefyd, yn enwedig, o ochr ein staff ni. Fedrwch chi ddim rhoi pris ar yr angerdd yna, a’r ymroddiad yna i system sy’n wirioneddol bwysig i ni allu ei chadw a’i datblygu i fod hyd yn oed yn fwy arloesol nag y mae ar hyn o bryd.
Byddwn ni’n edrych ar ffyrdd newydd o weithio. Mae’n rhaid i ni ddod dros y gwahaniaeth yma rhwng gofal cynradd allan yn fanna, o’i gymharu efo gofal yn yr ysbyty. Mae’n rhaid dod â’r ddau sector hynny at ei gilydd. Rydym yn licio gweld y dyhead yna, bod meddygon a nyrsys yn gallu gweithio yn yr ysbyty a hefyd yn ein cymunedau ni—rhyw ffordd ddeuol ymlaen fel hynny. Byddem yn disgwyl gweld datblygiadau cyffrous fel hynny i’r dyfodol. Nid yn unig fel y bydd meddygon teulu yn gweithio yn yr ysbytai, ond hefyd bydd arbenigwyr ein hysbytai ni yn gynyddol yn gweithio yn ein cymunedau ni. Rhaid mynd i’r afael efo gwneud yn siŵr bod pob arbenigwr hefyd yn gallu edrych yn gyffredinol ar y claf—nid ar jest un system sydd yn mynd ar chwâl. Mae gennym ddigon o arbenigwyr rŵan sydd jest yn edrych ar ôl y thyroid, neu ddim ond yn edrych ar ôl diabetes neu’r galon. Wel, yn gynyddol, rŵan, mae’n rhaid i ni gael arbenigwyr sy’n gallu edrych ar ôl y claf yn gyfan gwbl, gan taw twf yn nifer yr henoed sydd yna. Y ffordd i ymdopi efo hynny ydyw cael arbenigwyr sy’n gallu edrych ar ôl y claf yn gyfan gwbl, fel yr oeddem ni’n arfer ei chael. Rŵan, dim ond meddygon teulu, yn sylfaenol, oni bai am ambell i arbenigwr sydd yn gofalu am yr henoed, sydd â’r doniau angenrheidiol i wneud hynny. Mae eisiau ailedrych ar y system fel hynny hefyd.
Felly, a gaf i ddiolch o waelod calon am gyfraniad staff y gwasanaeth iechyd—ein meddygon a’n nyrsys ni, ffisiotherapyddion, OTs a phawb arall? Ac hefyd, wrth gloi, diolch i’r clerciaid ac i’r holl swyddogion sy’n cefnogi fy ngwaith i fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am bob cefnogaeth a hefyd am eu gwaith dygn a chaled yn dod â’r adolygiad yma, yn dod â’r cyfraniad sylweddol yma yr ydych chi’n ei weld o’ch blaen chi yn yr adroddiad yma, i olau dydd. Mae’n golygu lot o waith caled y tu ôl i’r llenni er mwyn dod â’r fath beth i fodolaeth yn y lle cyntaf. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu trafodaeth y prynhawn yma ac am eu sylw. Diolch yn fawr.