Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 7 Chwefror 2017.
Wel, rwy’n synnu mai dyna'r cyngor y mae’r meddyg teulu wedi ei roi iddo o ran cyffur; cyffur a roddwyd ar bresgripsiwn y dywedir y gall pobl fynd yn gaeth iddo ar ôl tri diwrnod. Hynny yw, os yw hynny'n gywir, yna rwy’n synnu mai dyna'r cyngor a roddwyd iddo gan ei feddyg teulu ei hun.
Ond, i ymdrin â’r mater y mae wedi ei godi, mae'n iawn dweud bod amseroedd aros yn rhy hir mewn rhai rhannau yn y gogledd—rwy’n cyfaddef cymaint â hynny. Ond, er hynny, fel yr wyf wedi ei amlinellu eisoes ac fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei amlinellu, mae camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa, gan gynnwys, wrth gwrs, cael llawfeddyg ychwanegol yng Nglan Clwyd, a gwneud yn siŵr bod darparwyr eraill ar gael i gleifion cyn gynted â phosibl er mwyn i lawdriniaethau barhau.