Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 7 Chwefror 2017.
Brif Weinidog, un o elfennau allweddol cynlluniau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru oedd y parthau menter, gan gynnwys, wrth gwrs, creu parth menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn fy etholaeth i. Yn sgil y ffaith fod parthau menter yn allweddol i’ch cynlluniau datblygu, a allwch chi felly roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am waith parth menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, gan gynnwys y cynnydd a wnaed tuag at ganolfan sgiliau rhagoriaeth ar gyfer y sectorau ynni, peirianneg a morol, a hefyd y cyfleoedd datblygu a nodwyd gan eich Llywodraeth chi yn benodol ar gyfer y parth menter, fel canolbwyntio nid yn unig ar ynni ond ar dwristiaeth hefyd?