Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 7 Chwefror 2017.
Wel, mae canolfannau trafnidiaeth yn hynod bwysig o ran cyflenwi trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod mor hygyrch ag y—wel, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn hygyrch, a dyna ni. Rydym ni’n ymwybodol o broblemau yn ymwneud â glendid yn yr orsaf. Mae trefniadau'n cael eu cwblhau ar hyn o bryd ar gyfer presenoldeb diogelwch a threfn lanhau newydd tan ddiwedd y fasnachfraint ym mis Hydref y flwyddyn nesaf, ac ar ôl y dyddiad hwnnw bydd y gwasanaethau yn cael eu darparu gan y cwmni trenau.