Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 7 Chwefror 2017.
Cawsom ymweliad â'r Cynulliad yr wythnos diwethaf gan Whizz-Kidz, grŵp o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, a oedd â chwynion ailadroddus nad oedd aelodau staff trafnidiaeth wedi cael eu hyfforddi i ymdrin â phobl anabl. Yn anffodus roedd hyn yn wir am aelodau staff rheilffyrdd, gyrwyr bysiau, a gyrwyr tacsis. Beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod aelodau staff trafnidiaeth yn cael eu hyfforddi'n briodol yn hyn o beth?