3. Cwestiwn Brys: Pencadlys Newydd S4C yng Nghaerfyrddin

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:34, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a’i chymeradwyo am ei brwdfrydedd wrth iddi ddwyn y mater hwn i'n sylw? Byddwn yn cytuno'n llwyr bod gan Gaerfyrddin ac, yn wir, y gorllewin cyfan, lawer iawn i'w gynnig, nid yn unig i economi Cymru ond i bobl o'r tu allan i Gymru, fel cyrchfan wych i dwristiaid hefyd. Fe wn i hynny oherwydd fy mod i yno yn y gorllewin ddoe, yn agor cyfleusterau newydd yn yr economi ymweld.

Mae'r Aelod wedi mynegi ei barn gref yn y gorffennol o blaid y cynigion, ond mae'r Aelod hefyd wedi siarad yn y gorffennol am yr angen i sicrhau, fel Llywodraeth Cymru, ein bod yn defnyddio diwydrwydd dyladwy yn briodol ac yn drylwyr ar gyfer cynigion a ddaw ger ein bron sy’n gofyn am gefnogaeth gan y pwrs cyhoeddus.

Nawr, rwyf yn gwerthfawrogi uchelgais y brifysgol o fod yn awyddus i hybu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol yn y rhanbarth, yn ogystal ag i annog datblygiad economaidd yn y rhanbarth, ac rwy'n awyddus i gefnogi unrhyw brosiect a allai ddarparu adnewyddiad economaidd a manteision diwylliannol mewn cymunedau ledled Cymru, ond mae'n rhaid i’r prosiect fod yn un y gellir ei gyflawni ac yn ymarferol. Ac felly rwyf wedi bod yn awyddus i ymchwilio i bob dull o gefnogi achos busnes boddhaol, y gellid ei gyflwyno mewn ffordd sy'n dangos hyfywedd ariannol, manteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, ond sydd hefyd yn esbonio'r angen am ymyrraeth gan y sector cyhoeddus. Roedd yn rhaid i mi ystyried hefyd, fel y mae’r Aelod wedi ei amlygu, barn arbenigol, nid yn unig oddi wrth Banel y Sector Diwydiannau Creadigol, ond hefyd cyngor arbenigol o bob rhan o Gymru, a phryderon o bob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd-orllewin. Wedi dweud hynny, rydym yn awr mewn sefyllfa lle y gallaf ddod â Gweinidogion at ei gilydd yr wythnos nesaf i drafod y mater, a gwneud penderfyniad y mis hwn.

Cyn belled ag y mae rhannu’r cyfoeth dan sylw, mae’r Aelod yn ymwybodol fy mod eisoes wedi datgan fy mwriad i ymweld â phencadlys y banc datblygu yn y gogledd, a cheir cyfleoedd ar y cyd â Cymru Hanesyddol i weld rhagor o fuddsoddiad yn cael ei ddarparu i'r rhanbarthau, ac, o bosibl, byddwn yn gweld beth fydd yn digwydd ar ôl i’r cynigion gael eu hystyried yn llawn. Ond un o'r argymhellion yw esblygiad Cadw, ac mae’n bur debyg y gallwn edrych ar fuddsoddi mewn un o’r rhanbarthau yn nhermau mwy o bresenoldeb Cadw. Rwyf yn mynd i ddefnyddio'r holl offerynnau sydd ar gael i ni, er mwyn sicrhau bod pob rhan o Gymru—pob rhanbarth, pob cymuned—yn rhannu’r cyfoeth a grëir.