3. Cwestiwn Brys: Pencadlys Newydd S4C yng Nghaerfyrddin

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:40, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet am ei gyflymder wrth benderfynu ar y mater hwn. A wnewch chi dderbyn gennyf i bod cefnogaeth drawsbleidiol i’r fenter hon a’n bod i gyd, yn y Cynulliad hwn, yn derbyn bod y de-orllewin wedi llusgo’n bell y tu ôl i’r rhan fwyaf o Gymru yn y blynyddoedd diwethaf o ran incwm? Mae Adam Price wedi gwneud cymwynas hynod bwysig â ni, rwyf yn credu, wrth dynnu ein sylw at hyn, nid yn unig heddiw yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond hefyd ar achlysuron blaenorol pryd y dangosodd ein bod yn un o ranbarthau tlotaf gorllewin Ewrop. Nid wyf yn ystyried hynny yn anrhydedd i ni ymfalchïo ynddo. Mae prosiectau o'r fath yn hanfodol bwysig, nid yn unig ar gyfer y swyddi a ddaw ar unwaith yn eu sgil, ond hefyd ar gyfer newid holl naws y rhanbarth neu’r is-ranbarth, a fydd wedyn yn ei gwneud yn fwy deniadol i gwmnïau eraill leoli yno. Effaith y dynfa yw’r hyn sydd mor bwysig yn y fan yma.

Yr ail bwynt yr hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddo yw, oes, wrth gwrs fod ganddo gyfrifoldebau i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n ddoeth, ond mae manteision diwylliannol ac ieithyddol ynddyn nhw eu hunain â gwerth y tu hwnt i arian. Ac rydym yn gwybod pa mor bwysig fydd y prosiect hwn o ran meithrin y Gymraeg, a’r effaith y bydd yn ei gael yn ehangach nag yn y rhanbarth ei hun. Felly, er nad wyf yn disgwyl iddo roi ateb sylweddol heddiw, gan y bydd yn rhaid iddo drafod gyda'i gydweithwyr ac eraill i ystyried y mater yn ei holl agweddau, ond fe ddylai o leiaf wyro at fod o blaid cydymdeimlo â’r cynnig hwn, ac nid bod ag ymagwedd calon-galed, Thatcheraidd ato.