Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 7 Chwefror 2017.
A gawn ni ddatganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar hawliadau ôl-weithredol ar gyfer arian gofal iechyd parhaus y GIG? Mae un o fy etholwyr i wedi bod yn aros am bron i bedair blynedd am benderfyniad ar ei chais, ac rwyf ar ddeall bod bron i 1,000 o geisiadau ôl-weithredol yn cael eu prosesu ar hyn o bryd. Mae pedair blynedd yn gwbl annerbyniol i un o ddinasyddion y wlad hon aros am benderfyniad ar gais ôl-weithredol, felly a wnaiff Llywodraeth Cymru roi’r gorau i osgoi a thaflu baich materion y gwasanaeth iechyd o ran ariannu gofal iechyd parhaus? A gawn ni ddatganiad i egluro'r sefyllfa honno ac i glywed pa gamau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i unioni hyn?