Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 7 Chwefror 2017.
Mae heddiw yn Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol, rwyf wedi fy nghalonogi i weld gwaith yr NSPCC, Stop it Now! Cymru a The Survivor’s Trust Cymru. Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel i ddiogelu plant ac atal camfanteisio rhywiol rhag digwydd. Canfu adroddiad a gomisiynwyd gan Ganolfan Diogelwch Rhyngrwyd y DU fod saith o bob 10 o blant a phobl ifanc wedi gweld delweddau anaddas ar-lein. Heddiw, mae'r NSPCC wedi cynhyrchu fideos ar gyfer ei ymgyrch Pwyllo a Rhannu, i dynnu sylw rhieni a phlant at beryglon rhannu gwybodaeth ar-lein. Cynhaliodd fy nghydweithiwr Lynne Neagle ddigwyddiad heddiw yn y Pierhead, lle rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg araith allweddol. A wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi i gymeradwyo cynlluniau fel y rhain, sy'n codi ymwybyddiaeth o gam-drin a chamfanteisio ar-lein ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, a’m sicrhau i ac eraill yn y Siambr hon y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu ar hyn?