Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 7 Chwefror 2017.
Yn amlwg mae’n rhaid cael ymagwedd ar draws y Llywodraeth ar gyfer hyn. Fel y dywedais yn gynharach, wrth ymateb i'r cwestiwn gan Andrew R.T. Davies, pan fo gennym reolaeth uniongyrchol, o ran ein gallu i wneud penderfyniadau ar leoliad corff newydd, swyddogaethau newydd—. Wrth gwrs, o ran Awdurdod Refeniw Cymru, nid corff newydd yn unig mohono; mae ganddo swyddogaethau newydd. Mae sgiliau newydd hefyd, o ran y pwerau treth yr ydym yn eu derbyn sydd wedi’u datganoli i Gymru erbyn hyn. Felly, mae'n fater o sicrhau bod gennym ni’r gallu a'r sgiliau i ddatblygu, ac mae hynny yn effeithio ar leoliad. Do, yn ôl ym mis Hydref—. Rwyf eisoes wedi sôn am y ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith wedi nodi ei ddymuniad bod y pencadlys, er enghraifft, ar gyfer banc datblygu Cymru yn cael ei sefydlu yn y gogledd. Felly, pan fo cyfle a phan nad oes rhai o'r materion hynny sydd wedi eu crybwyll eisoes o ran ein gallu i ddylanwadu ar leoliad, byddem yn dymuno sicrhau bod presenoldeb datganoledig ledled Cymru. O ran buddsoddiad y sector preifat a buddsoddiad mewnol, mae hynny, wrth gwrs, yn arwain at ystyriaeth arall—y pwyntiau a wnaed am y sectorau a'r ardaloedd menter yng Nghymru. Mae pwyslais penodol eu sector yn effeithio ar leoliad busnes y sector preifat a chyfleoedd newydd. Yn amlwg, mae hon yn strategaeth ar draws y Llywodraeth o ran lleoliad ac adleoliad busnesau a gwasanaethau ledled Cymru.