Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 7 Chwefror 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae diogelwch a diogeledd ein cymunedau wedi bod yn flaenoriaeth bob amser. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau yn fwy diogel fyth yn y dyfodol, ac mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer diogelwch cymunedol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yn benodol, byddwn yn datblygu ein gwaith i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a byddwn yn gweithio gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu, Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill ar faterion yn cynnwys seiberdroseddu, diogelwch a mynd i'r afael ag eithafiaeth. Byddwn yn parhau i annog gweithio agosach rhwng y gwasanaethau brys.
Ddirprwy Lywydd, mae gwneud ein cymunedau yn fwy diogel yn gofyn am weithredu ar draws y Llywodraeth, a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, er enghraifft—mae hyn yn cael ei arwain gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ac mae gan ymyrraethau fel y rhain, yn aml gyda rhai o'r dinasyddion mwyaf agored i niwed, oblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer diogelwch ein cymunedau. Yn wir, rwy’n sicr na ellir cyflawni cymunedau mwy diogel gan un gwasanaeth Llywodraeth—boed yn Llywodraeth y DU neu’n Llywodraeth Cymru—neu gymuned. Mae hon yn agenda a rennir.
O fewn fy mhortffolio i, mae llawer eisoes wedi ei gyflawni ledled Cymru drwy weithio gyda'n partneriaid. Ynghyd â Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, rydym wedi sefydlu panel ymgynghorol cyfiawnder ieuenctid Cymru. Mae hyn yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr o lywodraeth leol, iechyd, y gwasanaeth prawf, y trydydd sector a'r heddlu, ac mae'n darparu arweinyddiaeth gydlynol a chyfeiriad strategol ar draws meysydd polisi, a sefydlwyd gan Lywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU yn gysylltiedig â'n strategaeth Rhoi Plant yn Gyntaf Cymru. Mae effaith y gwaith ar y cyd a arweiniwyd gan y panel dros y pum mlynedd diwethaf wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy’n mynd i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf, lleihad yn nifer y bobl ifanc yn yr ystâd ddiogel ac ymagwedd effeithiol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth at ymyrraeth gynnar—canlyniadau sy'n dangos perfformiad gwell nag yn Lloegr.
Ac o ganlyniad i'r cydweithio agos gyda'r heddluoedd yng Nghymru, rydym wedi recriwtio a defnyddio 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol ledled Cymru. Hefyd, ynghyd â'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr - Cymru, rydym yn datblygu fframwaith cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a mwy o integreiddio wrth ddarparu gwasanaethau. Yn y modd hwn, ein nod yw targedu’r adnoddau gwasanaeth cyhoeddus cyfyngedig yn fwy effeithiol.
Ac, wrth gwrs, rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth arloesol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym wedi penodi cynghorydd cenedlaethol, wedi cyhoeddi ein strategaeth genedlaethol gyntaf ac wedi cyhoeddi canllawiau ac adnoddau hyfforddiant. Rydym wedi creu sawl ymgyrch proffil uchel, gan gynnwys yr ymgyrch Croesi’r Llinell a enillodd wobrau, sy'n ymdrin â cham-drin emosiynol. Rwyf hefyd yn cadeirio’r grŵp ymgynghorol VAWDA amlasiantaeth, sy'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr o bob rhan o'r sector statudol a'r trydydd sector, ynghyd ag academyddion blaenllaw. Mae'n rhoi arweiniad strategol ar weithrediad y Ddeddf a'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol. Bydd y grŵp yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni'r strategaeth genedlaethol newydd. Yn hollbwysig, mae'r dull hwn yn sicrhau ein bod yn gwrando ar leisiau goroeswyr.
Gyda'n partneriaid, rydym ni, mewn llawer agwedd ar ein gwaith, yn arwain y ffordd i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, gan ddenu sylw y DU a sylw rhyngwladol. Trwy waith partneriaeth Cymru, rydym ni’n codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth i wella adrodd a helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt a bod y troseddwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell.
Ond nid yw cadw cymunedau'n ddiogel yn golyygu atal neu fynd i'r afael â throseddu yn unig. Er enghraifft, mae tân a pheryglon eraill yn peri risg sylweddol. Mae ein gwasanaethau tân wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth fynd i'r afael â'r risgiau hyn. Ers i’r cyfrifoldeb gael ei ddatganoli yn 2005, mae tanau ac anafiadau oherwydd tân wedi haneru bron. O ganlyniad, mae gan ein diffoddwyr tân y gallu cynyddol i fynd i’r afael â bygythiadau eraill, hefyd, ac maent yn ymateb yn rheolaidd i achosion o lifogydd, sefyllfa yr wyf yn gobeithio ei ffurfioli mewn dyletswydd gyfreithiol newydd yn fuan. Mae llawer erbyn hyn yn cefnogi ein gwasanaeth ambiwlans wrth ymdrin ag argyfyngau meddygol pan fyddant mewn sefyllfa well i wneud hynny hefyd. Ac mae eu gwaith ataliol, sy'n cael effaith mor fawr wrth leihau tanau, yn cael ei ymestyn i gynnwys peryglon domestig eraill. Rydym yn falch o barhau i gefnogi ein gwasanaethau tân yn y gwaith hollbwysig hwn.
Wrth gadw ein cymunedau'n ddiogel, mae angen i ni hefyd fod yn ymwybodol o'r risgiau sy'n ein hwynebu oherwydd peryglon naturiol a pheryglon o waith dyn a bygythiadau terfysgaeth. Dyna pam yr ydym yn cefnogi ein gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill i ddatblygu a chryfhau eu gallu i’n hamddiffyn rhag y risgiau hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn arfer swyddogaeth arweinyddiaeth wrth gynnal a gwella strwythur i gydlynu cynllunio, ymateb ac adfer brys ledled Cymru, sydd, yn y pen draw, yn diogelu’r cyhoedd. Byddwn ni’n cryfhau’r swyddogaeth hon ac yn ceisio mwy o bwerau i'n helpu i gyflawni ein cyfrifoldebau yn fwy effeithiol.
Ond, Lywydd, mae’r agenda, oherwydd ei natur, yn gymhleth. Nid oes unrhyw ddiffiniad y cytunwyd arno yn gyffredinol o ddiogelwch cymunedol ac rydym yn gweithio mewn cyd-destunau sy'n newid yn gyson. Mae deddfwriaeth a pholisïau yn berthnasol i gyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli a heb eu datganoli. Mae dwy flynedd ar bymtheg o ddatganoli wedi arwain, o reidrwydd, at wahaniaethu rhwng ein dull polisi ni a gwaith Llywodraeth y DU. Rydym ni wedi gweld comisiynwyr heddlu a throseddu yn cael eu cyflwyno. Bu gan y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol ers 2011 ac mae'r manteision wedi cynnwys sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Felly, mae'r newidiadau hyn wedi dod â chyfleoedd newydd, ond nid yw pob un ohonynt wedi symleiddio cyd-destun y gwaith a wnawn.
Y llynedd, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu cymhlethdodau'r agenda ac yn amlygu peth o'r gwaith cadarnhaol yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn codi nifer o faterion, ac er y byddwn yn amrywio ar y materion penodol ar safbwyntiau, rwy’n credu bod yr adroddiad yn rhoi cyfle gwerthfawr i bob un ohonom bwyso a mesur.
Gyda chytundeb, ac ochr yn ochr â’r partneriaid allweddol hynny a grybwyllwyd gennyf yn gynharach sydd mewn sefyllfa i ysgogi newid, rwy'n sefydlu grŵp goruchwylio i adolygu'r trefniadau presennol. Bydd yn helpu i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer cymunedau mwy diogel yng Nghymru sy'n datblygu’r gwaith rhagorol a wnaed eisoes neu sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad hwn hefyd yn ystyried argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rwyf eisiau i'r adolygiad fod yn uchelgeisiol o ran ei feddylfryd a datblygu gweledigaeth glir ar gyfer diogelwch cymunedol sy'n gadarn, yn berthnasol ac yn ymatebol—gweledigaeth ar gyfer y tymor hir. Diolchaf i'r Llywydd.