7. 5. Datganiad: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:55, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, a diolch am y datganiad. Wrth gwrs, rydym ni’n rhannu gyda chi y gydnabyddiaeth na ellir cyflawni cymunedau mwy diogel gan un llywodraeth, gwasanaeth neu gymuned. Agenda a rennir yw hon. Gwnaethoch gyfeirio at y gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n mynd i’r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf. Fel y gwyddoch, y broblem yw’r aildroseddwyr sy’n aildroseddu’n barhaus sydd, yn gynyddol, yn mynd i’r ddalfa yn y pen draw, ond pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i adolygiad annibynnol Taylor o gyfiawnder ieuenctid, yn enwedig ei gynigion i sefydlu cynlluniau hyfforddi yn y gwaith i gynorthwyo i ddiwygio a helpu troseddwyr i ddod o hyd i waith ar ôl eu rhyddhau.

Gwnaethoch chi gyfeirio at gydweithio agos gyda heddluoedd yng Nghymru a recriwtio 500 o swyddogion cymorth cymunedol ledled Cymru. Pa ymgysylltiad neu gyfranogiad ydych chi wedi’i gael, yn fwy cyffredinol, oherwydd cawsom wybod, yn y cyfarfod briffio hwnnw gan Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru fis diwethaf—nad oeddech, yn anffodus, yn gallu bod yn bresennol ynddo, ond roedd rhai o'ch cydweithwyr yno—y bu, yn y gogledd, er enghraifft, gynnydd yn nifer y cwnstabliaid arbennig i 192, gwirfoddolwyr arbennig yr heddlu i 110, a bod rhaglen cadetiaid gwirfoddol yr heddlu wedi’i dechrau a bod y niferoedd wedi cyrraedd 60, rwy’n credu, erbyn yr adeg honno.

Gwnaethoch chi gyfeirio at y gwasanaethau tân ac achub—yn amserol, o ystyried y sylw yn y wasg ddoe i gynnydd yn nifer y tanau bwriadol yng Nghymru, a gwasanaethau yn cael eu dargyfeirio o alwadau 999 eraill a chriwiau tân yn cael eu galw i fwy na 7,100 o danau bwriadol yn ystod 2015-16—cynnydd o bron i 11 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Nawr, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda chi a Gweinidogion neu Ysgrifenyddion Cabinet eraill yn gyfrifol am y portffolio perthnasol. Tybed a allech chi ddweud wrthym eto, neu roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgysylltu hyn yr ydych chi'n ei wneud gyda'r gwasanaethau tân, ac asiantaethau eraill—gan gynnwys y trydydd sector, gobeithio—ynglŷn â mynd i'r afael â hynny.

Gwnaethoch chi gyfeirio at wasanaethau ambiwlans. Unwaith eto, yn y cyfarfod briffio gan Heddlu Gogledd Cymru, clywsom am swyddogion yr heddlu yn cael ei galw i ategu’r gwasanaeth ambiwlans ar alwadau. Roeddent yn dweud eu bod yn cynorthwyo i reoli effaith pwysau ar ysbytai i wella prosesau gwneud penderfyniadau o ran pryd y dylai'r gwasanaeth ambiwlans alw'r heddlu er mwyn lleihau presenoldeb diangen yr heddlu mewn digwyddiadau nad ydynt yn gysylltiedig â’r heddlu. Unwaith eto, nid wyf yn gwybod pa un ai chi neu gydweithwyr eraill yn y Cabinet sy’n gyfrifol, ond efallai y gallech ddweud pa swyddogaeth, os o gwbl, y gallai fod gan Lywodraeth Cymru yn hynny.

Fe wnaethoch chi gyfeirio yn briodol at Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Deddf (Cymru). Pan wnaethoch chi ddatganiad ar hyn fis Tachwedd diwethaf fe wnaethoch chi gyfeirio at ganllawiau statudol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff i arwain ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Nodais fod y Gweinidog ar adeg y ddeddfwriaeth wedi dweud y byddai canllawiau ysgogi ymagwedd ysgol gyfan drwy benodi aelod o staff, disgybl a llywodraethwr i’r swyddogaethau hynny. Fe wnaethoch ymateb yn gadarnhaol. Tybed a allwch chi nodi pa gynnydd sydd wedi ei gyflawni, o bosibl, hyd yn hyn.

Ar yr un pryd, cyfeiriais at yr alwad gan yr NSPCC am strategaeth gynhwysfawr ar gyfer Cymru i atal cam-drin plant yn rhywiol, yn dilyn yr adroddiad ‘Pa mor ddiogel yw ein plant ni? 2016’ a oedd yn nodi y bu cynnydd o 26 y cant yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant dan 16 oed yng Nghymru. Cyfeiriais hefyd at raglenni cyn carchar ar gyfer dynion sy’n cyflawni troseddau trais yn y cartref a chynllun y gwnaethoch chi ei gydnabod, Atal y Fro, sydd hefyd yn datblygu rhaglenni i fenywod a throseddwyr glasoed, yn ogystal â'r rhai hynny ar gyfer dynion. Efallai y byddwch yn cofio imi weithio’n galed, ochr yn ochr â chydweithwyr, i geisio cynnwys hyn yn y ddeddfwriaeth. Fe wnaeth y Gweinidog, yn y diwedd, er nad oedd yn derbyn hynny, ymrwymo Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â hyn ac edrych ar y dystiolaeth yn unol â hynny. Pa gamau y mae eich cydweithwyr wedi’u cymryd i edrych ar yr unig raglen achrededig yng Nghymru i weld sut y gallai hyn gael ei gynnwys yn well a llenwi'r bylchau sy'n bodoli?