7. 5. Datganiad: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 4:16, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Mae Cymru yn arwain y ffordd yn llwyr yn ein modd o ymdrin â chyfiawnder ieuenctid. Fel y dywedais wrth Mark Isherwood yn gynharach, nid yw adolygiad Charlie Taylor yn ddefnyddiol ar gyfer sefydlu cyfle gwahanol i’r DU ei symud ymlaen, ac rwy’n credu, mewn gwirionedd—. Dywedodd y Gweinidog wrthyf yn Llundain, A dweud y gwir, gallem ni ddysgu rhywbeth gan Gymru yn hyn o beth, ac roedd hynny yn galonogol iawn. Rwyf yn gobeithio y bydd yn ymweld â ni cyn bo hir i weld y gwaith sy'n cael ei wneud am y dull cyflawni aml-asiantaeth. Rydym ni’n gweld y manylion gwirioneddol am leihau troseddu mewn llawer o'r camau gweithredu yr ydym yn gallu eu cyflawni.

Ni yw'r unig ran o'r DU sydd â chydlynydd gwrth-gaethwasiaeth, a benodwyd ddwy Lywodraeth yn ôl. Y mae wedi gwneud gwaith anhygoel wrth fynd i'r afael â’r agenda caethwasiaeth cudd hwn. Mae pobl yn ymweld o wledydd ledled y byd, ac yn dod i Gymru i edrych ar y gwaith yr ydym yn ei wneud yma, felly mae’r ffordd yr ydym yn ymdrin â hyn yn enghraifft dda. Byddwn i’n annog rhannau eraill o'r DU i ystyried dod â grŵp o bobl—cydlynwyr gwrth-gaethwasiaeth yn eu hawdurdodaeth eu hunain—at ei gilydd er mwyn mynd i'r afael â hyn fel ynys. Mae angen i ni reoli hyn yn well o lawer, ond rydym ni’n bendant yn ymdrin â hyn yma yng Nghymru.

Mae'r swyddogion cymorth cymunedol yn addewid poblogaidd iawn yr ydym wedi’i gyflawni. Mae 500 ohonyn nhw ledled Cymru, gan gynnwys—mae gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain rai o'r swyddogion cymorth cymunedol. Gallai pob un ohonoch chi adrodd stori am sut y maen nhw’n agos iawn at y gymuned ac yn gwneud cymaint o waith da yn ein cymunedau. Rwyf i wedi bod allan gyda rhai o'r swyddogion cymorth cymunedol wrth eu gwaith, sydd bob amser yn ddiddorol. Mae ganddyn nhw nifer fawr o gysylltiadau a hir y pery hynny. Mae'n bolisi gennym i barhau â hyn yn y tymor hwy a gwn fod yr Ysgrifennydd cyllid yn awyddus i sicrhau bod gennym y cyllid i'w cefnogi hefyd.