7. 5. Datganiad: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 4:18, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf i’n croesawu'r swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yr ydych chi wedi eu cyhoeddi a sôn amdanyn nhw yn eich datganiad. Fodd bynnag, mae'n drueni, yn sicr yn y gogledd, bod gormod o orsafoedd heddlu yn anhygyrch erbyn hyn a’r safleoedd wedi’u gwerthu. Mae’r sicrwydd o gael gorsaf heddlu weladwy a hawdd ei chyrraedd wedi ei dynnu oddi ar lawer o bobl. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion i ni am y sylwadau y mae wedi’u gwneud i gomisiynwyr heddlu a heddluoedd Cymru o ran cau neu leihau gorsafoedd heddlu?

Rwy’n croesawu unrhyw ymdrechion a wnaed i leihau, ac yn y pen draw, dileu trais yn erbyn menywod, trais rhywiol a cham-drin domestig. Fel yr wyf wedi nodi o'r blaen, mae gan athrawon gwrywaidd a dynion mewn bywyd cyhoeddus—er enghraifft, sêr pop a sêr chwaraeon—i gyd ran bwysig i’w chwarae wrth roi terfyn ar drais yn erbyn merched. Sut ydych chi'n gweithio i annog sefydliadau dynion a dynion adnabyddus i’r cyhoedd gymryd rhan yn eich gwaith i ddileu trais yn y cartref a thrais rhywiol, ac yn eu helpu i ddeall eu bod yn gallu chwarae rhan allweddol wrth sicrhau diwylliant hapusach a mwy diogel ar gyfer cenedlaethau o fenywod a dynion yn y dyfodol?

Rwy’n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet nad atal troseddau yw diwedd y gân o ran diogelwch cymunedol. Gall damweiniau yn y cartref ac mewn lleoedd eraill newid bywydau y dioddefwyr a'r rhai o'u cwmpas am byth, ac mae atal, fel y maen nhw'n ei ddweud, yn well na gwella. Yn aml, ceir cyfres o gyfleoedd ar hyd llinell amser damwain, pob un ohonynt yn cynnig cyfle i atal y ddamwain, ond addysg ac ymwybyddiaeth yw’r man cychwyn. Mae PentrePeryglon, yn fy etholaeth i, yn gyfleuster addysgol sy'n dileu damweiniau ac anafiadau yn y dyfodol yn y cartref ac mewn mannau eraill ar hyn o bryd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o'u cyfrifoldebau cymdeithasol a chyfreithiol, gan eu helpu i osgoi mynd i drwbl â’r awdurdodau. Elusen annibynnol yw PentrePeryglon dyma'r unig gyfleuster o'i fath yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai’r cyfleuster hwn fod yn derbyn cyllid cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru, ac y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi cyfleusterau eraill o'r fath a sicrhau eu bod ar gael i blant a phobl ifanc yng ngweddill Cymru? Diolch.