Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 7 Chwefror 2017.
Na. Gallaf ddyfalu ei fod yn golygu, am wn i, mynediad i’r farchnad ar yr un telerau ag yn awr, ond dyfalu yw hynny. Nid oes neb wir yn gwybod beth yw ystyr yr ymadrodd hwn. Yn wir, i roi'r cymal llawn i'r Siambr, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau'r fasnach fwyaf rhydd a mwyaf diffrithiant bosibl mewn nwyddau a gwasanaethau yn yr UE. Wel, y gair allweddol yno yw 'bosibl'. Bydd yn rhaid inni aros i weld beth yw ystyr hynny. Mae'r Papur Gwyn yn methu â’i gwneud yn glir sut y bydd Llywodraeth y DU yn blaenoriaethu rhwng ei gwahanol amcanion, a fydd weithiau yn cystadlu â’i gilydd. Nid yw Papur Gwyn Llywodraeth y DU ychwaith yn cydnabod y gallai’r DU golli llawer yn fwy difrifol o godi unrhyw rwystr â thariff neu heb dariff rhag masnachu nag unrhyw un o'n partneriaid Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae gan wledydd eraill yr UE orchmynion gwleidyddol, yn union fel sydd gan y DU. Fel y nodwyd yn adroddiad Reuters y diwrnod o'r blaen, mae gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn paratoi i addasu i’r effeithiau negyddol ar eu model busnes o ganlyniad i gyflwyno tariffau ar y DU.
Yn yr un modd, rydym ni’n credu y dylai'r DU barhau i fod yn rhan o'r undeb tollau, o leiaf am y tro. Mae dwy ran o dair o allforion Cymru yn mynd i'r UE, ac mae cymryd rhan yn yr undeb tollau hefyd yn galluogi masnach rydd gyda mwy na 50 o wledydd eraill y tu hwnt i'r UE. Ystyriwch, hefyd, sefyllfa Ynys Manaw, Jersey, a Guernsey, nad oes ganddyn nhw, er eu bod y tu allan i'r UE, ond yn yr undeb tollau, reolaeth ar faterion tramor a masnach ac a gaiff felly eu tynnu allan o'r undeb tollau, o bosibl, heb gael dweud eu dweud o gwbl, neu heb i neb erioed ofyn iddyn nhw.
Mae Llywodraeth y DU yn methu â chydnabod y dystiolaeth bod manteision cryfaf masnach rydd yn dod pan fo’r partïon dan sylw yn ddaearyddol agos ac yn debyg i’w gilydd o ran lefelau datblygiad. Mae un astudiaeth yn amcangyfrif y byddai cyfres o gytundebau masnach rydd â'r Unol Daleithiau, Canada, Awstralia a Seland Newydd gyda’i gilydd yn cynyddu masnach cyffredinol y DU 3 y cant, ond dim ond degfed rhan yw hynny o'r gostyngiad yn ein masnach gyffredinol a fyddai'n digwydd pe byddem yn gadael y farchnad sengl ar delerau Sefydliad Masnach y Byd.
Mae amcan Llywodraeth y DU o sicrhau trefniant tollau â’r UE sydd o fudd i'r ddwy ochr yn aneglur, ac yn sicr yn edrych fel ymdrech i’w chael hi bob ffordd, ac nid yw'n glir beth mae hynny'n ei olygu i’r ffin tir y bydd gan y DU â’r UE yn Iwerddon, ac, yn wir, â Sbaen.
Beth felly am y wobr fawr, y mae Llywodraeth y DU yn credu y dylem ni ildio ein cyfranogiad yn yr undeb tollau er ei mwyn: cyfnod newydd o gytundebau masnach dwyochrog gyda marchnadoedd newydd a marchnadoedd sy’n ehangu? Nawr, ni ddylem ein twyllo ein hunain y bydd yn hawdd ffurfio cytundebau masnach da. Mae'n debygol o gymryd blynyddoedd, efallai blynyddoedd lawer, ac mae’n ddigon posibl y bydd cytundebau newydd, yn enwedig os yw ein cefnau yn erbyn y wal oherwydd camdrafod y trafodaethau Brexit, yn ein gwneud ni’n ysglyfaeth hawdd i wledydd sydd eisiau inni gofrestru ar gyfer cytundebau masnach neo-ryddfrydol sy'n tanseilio safonau cyflogaeth a safonau amgylcheddol.
Yn ail, rydym ni wedi cydnabod yn glir bod pryderon am fudo wedi bod yn rhan o'r rheswm pam y pleidleisiodd rhai pobl dros ‘adael’, ac mae ein safbwynt yn glir: mae’n rhaid bod cysylltiad clir rhwng yr hawl i ddinasyddion yr UE nad ydyn nhw’n fyfyrwyr nac yn economaidd hunangynhaliol i ddod i’r wlad hon ar ôl Brexit, a gwaith. Ochr yn ochr â hyn, mae angen inni weld ymrwymiad llawer cryfach gan Lywodraeth y DU i weithredu deddfwriaeth bresennol a ddylai diogelu gweithwyr, boed o Benfro neu o Boznań, rhag cael eu twyllo a’u hecsbloetio. Nawr, mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn fylchog iawn ynglŷn â sut yr hoffai ymdrin â hyn; nid yw’n rhoi dim eglurder ynghylch beth yw ystyr rheoli ein ffiniau mewn gwirionedd, heblaw y bydd y ffin yn agored o ran y ffin tir â’r UE. Nid yw'n rhoi’r sicrwydd diamwys yr ydym wedi galw amdano i hawliau dinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw ac yn gweithio yma.
Yn drydydd, mae angen cydnabyddiaeth briodol arnom gan Lywodraeth y DU y dylai Cymru barhau i gael yr arian sydd ei angen arni i weithredu polisi datblygu rhanbarthol a gwledig yn seiliedig ar ein hanghenion gwrthrychol, ac rwy’n disgwyl y bydd Aelodau yn gallu rhoi cefnogaeth gadarn iawn imi ar y pwynt hwn.
Yn bedwerydd, mae arnom angen archwiliad trylwyr o ddyfodol datganoli yn y DU, ar ôl Brexit. Rydym ni’n disgwyl i Lywodraeth y DU barchu canlyniadau'r refferenda a gyflwynodd ddatganoli yn y DU, yn ogystal â’r un ar 23 Mehefin y llynedd. Ni allan nhw ddewis a dethol pa refferenda y maen nhw’n dymuno eu parchu. Mae'n gwbl glir, yn 2011, bod y mwyafrif llethol o bobl Cymru wedi penderfynu eu bod yn dymuno gweld pwerau llawn yn cael eu rhoi i'r Cynulliad hwn yn y meysydd a oedd wedi’u datganoli, yn ddiamod. Rwy’n croesawu’r ymrwymiad y gwnaeth y Prif Weinidog imi yr wythnos diwethaf na fydd dim cipio tir ar gymwyseddau datganoledig, ond mae'r Papur Gwyn yn portreadu diffyg dealltwriaeth o'r ffordd y bydd Brexit yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig. Felly, mae sôn am ddychwelyd pwerau o Frwsel yn gamarweiniol iawn, fel y mae’r Goruchaf Lys eisoes wedi ei gwneud yn glir, oherwydd unig effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gymwyseddau datganoledig fydd cael gwared ar gyfyngiadau sydd ar hyn o bryd yn atal y Cynulliad Cenedlaethol rhag deddfu yn groes i gyfraith yr UE. Felly, i ddyfynnu’r llys:
'Bydd cael gwared ar gyfyngiadau’r UE ar dynnu'n ôl o Gytuniadau’r UE yn newid cymhwysedd y sefydliadau datganoledig oni fydd cyfyngiadau deddfwriaethol newydd yn cael eu cyflwyno. Yn absenoldeb cyfyngiadau newydd o'r fath, bydd tynnu'n ôl o’r UE yn gwella’r cymhwysedd datganoledig.'
Mewn geiriau eraill, pan fydd pwerau’n dychwelyd o Frwsel, byddan nhw’n dod yn syth yma. Ni fyddan nhw’n oedi ychydig, nac, yn wir, yn aros, yn Whitehall.
Nawr, gadewch imi fod yn gwbl glir: nid oes gen i ddim bwriad o gwbl i argymell i'r Cynulliad hwn ein bod yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i unrhyw gyfyngiadau deddfwriaethol newydd a fyddai i bob diben yn golygu bod San Steffan yn dwyn pwerau gan Gaerdydd.
Yn bumed, mae llawer o fanteision yn deillio o aelodaeth o'r UE neu’n cael eu cryfhau ganddyn nhw. Maen nhw’n ymdrin â meysydd mor amrywiol ag amddiffyn cyflogaeth, cydraddoldeb, hawliau defnyddwyr a gwella ein hamgylchedd. Byddwn yn gweithio i gadw’r manteision hyn yn y trafodaethau gadael. Er fy mod i’n croesawu'r sicrwydd ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU y byddan nhw’n diogelu hawliau cyflogaeth, mae eto’n aneglur sut y mae’r flaenoriaeth hon yn gydnaws ag amcanion eraill, fel cwblhau cytundebau masnach rydd newydd, a allai arwain yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at eu gwanedu.
Yn chweched, rydym yn pwysleisio ei bod yn debygol y bydd angen cyfnod pontio, fel y gall y trefniadau presennol fod yn berthnasol am gyfnod ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'n hanfodol, fel egwyddor, ein bod yn cydnabod bod angen rheoli’r ymadael hwnnw mewn ffordd sy'n peri'r tarfu lleiaf. Ni allaf weld dim rheswm da pam y mae Llywodraeth y DU yn gwrthwynebu hynny, ond ar hyn o bryd mae'n ymddangos eu bod.
Felly, er ein bod mewn rhai ffyrdd yn croesawu Papur Gwyn y Llywodraeth y DU, ar y cyfan mae’n dipyn o siom. Mae'n dweud yn y bôn, 'Mae hyn yn fwy cymhleth nag yr oeddem ni’n meddwl y byddai ac nid oes gennyn ni ddim atebion eto.' Ond mae angen dod o hyd i’r atebion hynny, ac yn fuan. Nid gêm o ‘poker’ yw hon lle mae gennym ni law hap yn Texas hold 'em ac nid yw’r ochr arall yn gwybod dim am gryfder y llaw; mae'n drafodaeth aeddfed lle gall y ddwy ochr wneud asesiad eithaf da, yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth, o'r hyn sy'n debygol o fod yn bwysig i'r llall. Ar ryw adeg, cyn bo hir, bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU nodi'n glir yr hyn maen nhw ei eisiau mewn gwirionedd, ac efallai, yn anad dim, bod yn glir ynghylch pa gyfaddawdau y maen nhw’n fodlon eu derbyn rhwng eu gwahanol ofynion. P'un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU roi eu gofynion i gyd mewn un Brexit. [Chwerthin.] Mae'n rhaid cael gair mwys yn ei ganol.
Nawr, gadewch imi roi sylw i’r cwestiwn am y gwelliant a gynigiwyd gan Blaid Cymru. Roeddwn i, ac rwy’n dal i fod, yn falch bod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi datblygu ein Papur Gwyn a’i gymeradwyo ar y cyd, ac wedi cyflwyno'r cynnig o sylwedd sydd ger ein bron ar y cyd. Mae'n hanfodol bod y Cynulliad Cenedlaethol yn siarad dros Gymru â llais cryf ac unedig. Rwy’n ei gwneud yn glir: ni wnaf i gymeradwyo Brexit nad yw'n sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl, boed hynny drwy'r llwybr EFTA neu'r llwybr AEE, neu drefniant pwrpasol. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod hynny’n flaenoriaeth iddyn nhw hefyd, er eu bod yn gwneud hynny mewn iaith wahanol. Ond nid yw’n glir a all Llywodraeth y DU gyflawni’r canlyniad hanfodol hwn, ynghyd â rhai o'i 11 o amcanion eraill. Yn bersonol, rwy'n amheus. Rydym yn aros i weld. Ond ni fydd yn dod yn glir nes bod y trafodaethau ar y gweill. Dim ond bryd hynny y gallwn ni fod yn siŵr a yw Llywodraeth y DU wir yn barod i aberthu ein heconomi am ideoleg ac egwyddorion cyfansoddiadol haniaethol. Os bydd hynny'n digwydd, byddaf i a Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i’w hatal rhag gwneud hynny.
Felly rwy'n glir: er fy mod, fel Plaid Cymru, yn cefnogi'n gryf ymdrechion yn San Steffan i ddiwygio’r Bil drafft, ni allwn ac ni ddylem geisio rhwystro’r trafodaethau hynny rhag dechrau. Hynny, wedi'r cyfan, oedd diben y refferendwm. Mae'n rhaid parchu’r canlyniad a dyna pam y bydd y grŵp Llafur yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly gadewch imi fod yn glir i gloi: rydym ni o’r farn bod ein Papur Gwyn yn cynnig safbwynt mwy realistig a manwl, wedi’i seilio ar dystiolaeth, nag unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn. Byddwn ni’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ystyried ei negeseuon, ac i gadw at yr ymrwymiad y maen nhw wedi ei wneud i geisio consensws rhyngddyn nhw eu hunain a'r gweinyddiaethau datganoledig ar amcanion trafod y DU. Hoffem ni weithio gyda Llywodraeth y DU a phawb sydd â budd i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy'n dda i Gymru ac yn dda i’r DU. Lywydd, byddwn ni’n parhau i wneud hynny.