Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 7 Chwefror 2017.
Diolch, Lywydd. Dydw i ddim yn hollol siŵr sut y gallaf ddilyn hynny. Rwy’n cynnig gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin y llynedd, mae Plaid Cymru wedi blaenoriaethu budd cenedlaethol Cymru. Ni fydd yn syndod i neb—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i fod yn genedlaetholwr Cymreig o'i gymharu â’ch cenedlaetholdeb Brydeinig chi, diolch yn fawr iawn. Ni fydd yn syndod i neb yn y Siambr hon bod fy mhlaid yn dal i fod o blaid cyfranogi yn y farchnad sengl Ewropeaidd—rhywbeth sydd yn bosibl, naill ai o’r tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd neu o'r tu allan iddo. Nawr, rydym yn gwybod bod ardaloedd a chytundebau masnach rydd mawr yn gallu dod â pheryglon i gymdeithasau, ond mae'r farchnad sengl Ewropeaidd wedi gweithio'n dda i Gymru. Mae cymryd rhan ynddi wedi helpu i greu swyddi tra medrus â chyflogau uchel. Mae tua 200,000 o swyddi yng Nghymru yn gysylltiedig â'r farchnad honno. Ac yn hanfodol, mae'r farchnad sengl Ewropeaidd yn seiliedig ar safonau uchel, ac mae’n seiliedig ar ragoriaeth, arloesi a diogelu’r amgylchedd. Ar y naill law, mae'n cael gwared ar rwystrau rhag masnach. Ac ar y llaw arall, mae'n gwella ac yn hyrwyddo ansawdd. Mae gan y farchnad sengl Ewropeaidd rai o'r safonau diogelwch defnyddwyr gorau yn y byd. Bydd llawer o bobl yn gyfarwydd â'r marc CE a gyflwynwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd i fod yn berthnasol i nwyddau ledled yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu’r AEE. O deganau plant i’r nwyddau gweithgynhyrchu o’r ansawdd uchaf, mae’r marc CE yn golygu bod yn rhaid i gynnyrch fodloni’r safonau diogelwch ac amgylcheddol uchaf posibl.
Ond nid dim ond nwyddau cartref sydd ar gael yn y farchnad sengl. Mae hefyd yn cynnwys enwau cyfarwydd: Airbus; Ford ym Mhen-y-bont; Siemens yn Llanberis; cig oen Cymru—90 y cant o'n hallforion cig oen; Halen Môn. Mae pob un o'r cwmnïau neu’r sectorau hyn naill ai wedi cefnogi’r farchnad sengl neu’n dibynnu arni am eu hallforion rhyngwladol. Rydym wedi clywed sôn am yr angen i’r sectorau hyn ddod o hyd i farchnadoedd eraill, ond pam y byddem yn cerdded i ffwrdd oddi wrth y farchnad fwyaf yn y byd pan mae ar ein stepen drws yn barod? Dylen ni yng Nghymru feddwl yn ofalus iawn am ein hawliau defnyddwyr, ein hallforion, ein hamgylchedd, ein hawliau gweithwyr wrth inni ystyried yr hyn sy'n cael ei gynnig fel dewis arall.
Mae amryw o Geidwadwyr wedi amlinellu dewis arall i aros yn y farchnad sengl. Rwyf wedi eu clywed yn dweud y bydd rywbeth yn debyg i Singapore. Wel, nid oes gennyf unrhyw broblem â Singapore, ond byddai mewnforio model o'r fath i'r DU yn annerbyniol i ni. Nid ydym am weld Cymru yn cael ei llusgo i mewn i fyd Eingl-Americanaidd o breifateiddio, lle y byddem mewn perygl o wynebu diwedd nawdd cymdeithasol a diwedd y GIG. Byddai fersiwn newydd, ac yn ôl pob tebyg yn waeth, o TTIP o dan y cytundebau masnach rydd, a byddai hynny’n israddio hawliau gweithwyr a mesurau i ddiogelu ein hamgylchedd. Byddai'n rhaid i ffermwyr Cymru gysoni safonau amaethyddol â’r Unol Daleithiau, neu weld agor ein marchnadoedd i fwy o gig oen o Seland Newydd. Mae'r rhain yn bosibiliadau y bydd Plaid Cymru yn eu gwrthwynebu ar bob cyfle.
Clywsom hefyd y Brexiteers yn cynnig dewis arall gwahanol yn ystod ymgyrch y refferendwm.
Nid oes neb o gwbl yn sôn am fygwth ein lle yn y farchnad sengl, meddai Daniel Hannan o Vote Leave.
'Dim ond gwallgofddyn fyddai’n gadael y farchnad mewn gwirionedd.'
Nid yw'r rhain yn eiriau y byddwn i’n eu dewis, ond geiriau Owen Patterson ydyn nhw. A
'A fyddai mor ddrwg i fod fel Norwy?'
Dyfalwch pwy ddywedodd hynny. Nigel Farage. Doedd Brexit caled y tu allan i'r farchnad sengl yn ogystal â'r UE ddim yn gwestiwn a oedd ar y papur pleidleisio. Cyplwch hynny â'r addewid i fuddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd bob wythnos mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn benodol y GIG, ac mae’n dod yn amlwg bod gwir angen i ddal yr ochr 'gadael' i gyfrif am eu haddewidion ac am eu llwon. Rwy’n cynrychioli etholaeth a bleidleisiodd i adael. Mae'r Rhondda wedi colli meddygfeydd teulu. Mae rhai cymunedau’n diboblogi ac felly yn dioddef o niferoedd yn gostwng, cau ysgolion. Mae gormod yn cael trafferth â phroblemau cymdeithasol. Roedd yr addewidion hynny o arian ychwanegol yn ddeniadol iawn, ac mae yna bobl a gynigiodd yr addewidion hynny yn bresennol yn y Siambr hon heddiw, ac maen nhw’n bresennol yn Llywodraeth y DU hefyd.
Mae Plaid Cymru wedi gwrthod rhoi siec wag i Lywodraeth y DU i danio erthygl 50, a dyna pam yr ydym wedi cyflwyno ein gwelliant heddiw, yn ogystal â'n gwelliant a gyflwynwyd neithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin. Lywydd, mae gennym gynnig ger ein bron heddiw sy'n cydnabod canlyniad y refferendwm ac yn nodi cynllun manwl ar gyfer Cymru, a bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig hwnnw, hyd yn oed os yw ein gwelliant yn methu. Mae'r cynnig yn iawn i nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu ag amlinellu cynllun manwl. Mae hyn yn rhan o'n problem.