Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 7 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel yr ydych wedi’i ddweud, bod cymaint o undod â phosibl ar draws y Siambr ar y cynnig hwn a'n bod yn dod at ein gilydd ar ran budd cenedlaethol Cymru. Ar ôl negodi cynnig ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a allwch esbonio pam yr ydych wedyn yn cyflwyno cynnig ar wahân sy’n rhoi signal o dacteg wahanol i'r hen gynnig yr oeddech wedi cytuno arno? A oes gan hyn fwy i’w wneud â’ch rhaniadau gwleidyddol mewnol eich hun, yn hytrach na budd cenedlaethol Cymru?