8. 6. ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: Trefniadau Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i Berthynas Newydd ag Ewrop

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 4:55, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n gwerthfawrogi jôc y Prif Weinidog am beidio â rhoi ein hwyau mewn un Brexit, ond rwy’n ofni nad comedi yw ei siwt gryfaf oherwydd mae mor felodramatig yn y dadleuon hyn. Mae’r gofid a’r gwae sy’n dod allan o'i geg wir yn eithaf rhyfeddol, ac mae, rwy’n credu, yn ei fodelu ei hun yn fwy ar Private Frazer yn ‘Dad’s Army’—‘We’re doomed, we’re doomed’. Mae ei gydweithiwr ar draws y Siambr, yn fy marn i, yn ei modelu ei hun ar y cymeriad comig o'r sioe radio 'ITMA', Mona Lott, y ferch ddigalon yn y golchdy—‘Bod mor siriol sy’n fy nghadw i fynd’. Mae cwmwl du i bob ymyl arian yw’r ffordd y maen nhw’n edrych ar y peth, a dyma'r peth rhyfeddol: nid oes ond yn rhaid ichi ddarllen y ddogfen hon, y Papur Gwyn, i weld o ble mae hynny'n dod. Yn y dechrau un, bron:

'gallai disodli cyfranogiad yn y Farchnad Sengl â rheolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) arwain at economi'r DU sydd hyd at 8 i 10 y cant yn llai nag y byddai fel arall'—