Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 7 Chwefror 2017.
Rwy’n ddiolchgar iawn ichi am gymryd fy ymyriad. Nawr, mae semanteg a geiriau yn bwysig. Heddiw, rwyf wedi gwrando ac rwyf wedi clywed y geiriau 'ni', 'y wlad hon' ac 'ein'. Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym yn ei glywed heddiw yw'r gwahaniaeth rhwng cenedlaetholdeb Prydeinig pobl yn y Siambr hon a'r cenedlaetholdeb Cymreig sydd ar yr ochr hon, oherwydd pan fyddwn ni’n sôn am ein gwlad, rydym ni’n golygu Cymru. Mae'r DU yn cynnwys Lloegr, Yr Alban, Cymru a gogledd Iwerddon. Dyna'r peth pwysig i'w gofio—ac rwy’n credu mai dyna ddiwedd fy ymyriad. Diolch.